Hafan
Mae gwaith Confensiwn Cymru Gyfan bellach wedi'i gwblhau, ond bydd y wefan hon yn parhau fel cofnod o'n gwaith.
Ar 18fed Tachwedd 2009, cyflwynwyd adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan, a'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at y drafodaeth ar bwerau deddfu'r Cynulliad, a'r rhai a roddodd dystiolaeth i lywio ein hadroddiad. Credwn fod argymhellion yr adroddiad yn haeddu cael eu hystyried o ddifrif, a nawr y gwleidyddion biau'r penderfyniadau ynglyn â sut i weithredu.
Dyma beth mae pobl yn ei ddweud:

