Pwyllgor Sefydlu
Sefydlwyd Pwyllgor Sefydlu Confensiwn Cymru -Gyfan gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog i gynghori ar sut ddylai'r Confensiwn Cymru -Gyfan a gyfeirir ati yn ail bennod Rhaglen Llywodraethu Cymru'n Un weithredu.
Aelodau'r pwyllgor sefydlu oedd:
- ACau Llafur: Christine Chapman (Cyd-ysgrifennydd), Lynne Neagle, Jeff Cuthbert, Alun Davies;
- ACau Plaid Cymru: Helen Mary Jones (Cyd-gadeirydd), Alun Ffred Jones, Nerys Evans, Dai Lloyd;
- ASau Llafur: Nick Ainger (Cyd-gadeirydd), Nia Griffith, Jessica Morden, Ian Lucas;
- ASau Plaid Cymru: Elfyn Llwyd, Adam Price, Hywel Williams, a Cynog Dafis (Cyd-ysgrifennydd) sef aelod ychwanegol o Blaid Cymru .
Bu'r Pwyllgor yn cyfarfod rhwng mis Rhagfyr 2007 a mis Mawrth 2008 a chytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer Confensiwn Cymru Gyfan.
Cytunodd y Pwyllgor ar sut, yn gyffredinol, y dylai gwaith y Confensiwn gael ei gyflawni. Y nod yw sicrhau bod Confensiwn Cymru Gyfan yn gweithio'n effeithiol i hwyluso trafodaeth eang fel bo'r cyngor gorau posibl ar gael i bleidiau gwleidyddol ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth wneud penderfyniad cytbwys ynghylch refferendwm ar bwerau deddfu llawn.
Derbyniodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog awgrymiadau'r Pwyllgor Sefydlu ym mis Mawrth 2008.
