Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cwestiynau Cyffredin

Yn y rhan hon o'r safle, rydym wedi dwyn ynghyd rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n cael eu holi a'r atebion iddynt. Edrychwch yma o bryd i'w gilydd am gwestiynau newydd gan y byddwn yn eu diweddaru'n rheolaidd. Os hoffech gael ateb i gwestiwn sydd heb ei ofyn yna cysylltwch â ni trwy'r adran cysylltu â ni.

1. Beth yn union y bydd y Confensiwn yn ei wneud?

Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn esbonio i bobl Cymru y pwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd (neu'r 'system o lywodraethu yng Nghymru'). Bydd hefyd yn asesu goblygiadau symud at gael pwerau deddfu llawn, gan ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn symud i'r cyfeiriad hwn.

Nod Confensiwn Cymru Gyfan fydd rhoi cyfle i amryw o wahanol bobl ledled Cymru fynegi eu barn ar y pwnc hwn, fel y gellir rhoi ystyriaeth drwyadl i bwerau deddfu llawn gan ystyried barn a phryderon pobl.  Yna, caiff y sylwadau hyn eu cynnwys yn rhan o adroddiad a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel y gallant wneud penderfyniad cytbwys a yw Cymru yn barod am refferendwm. 

Dyma amcanion penodol Confensiwn Cymru Gyfan:

  • Codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a'r darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'u goblygiadau yn y dyfodol o ran llywodraethu yng Nghymru.
  • Hwyluso ac ysgogi ymgynghori eang, trylwyr a chyfranogol ar bob lefel o gymdeithas yng Nghymru ynghylch pwerau deddfu llawn.
  • Paratoi dadansoddiad o'r sylwadau a fynegwyd a'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn sgil y broses hon.
  • Asesu beth yw lefel cefnogaeth y cyhoedd ynghylch rhoi pwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ei ganfyddiadau, gydag argymhellion yn ymwneud â chynnal refferendwm.

2. Beth yw pwerau deddfu presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

Caiff pwerau deddfu presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) eu pennu yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Daeth y rhain i rym yn dilyn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2007. 

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau i basio deddfau a elwir yn Fesurau'r Cynulliad.  Dim ond mewn meysydd polisi penodol a elwir yn Faterion y caiff Mesurau eu pasio.  Mae'r Materion wedi'u rhestru yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, o dan ddisgrifiadau ar gyfer meysydd polisi eang a elwir yn 'feysydd'.

Gellir ychwanegu Materion eraill at Atodlen 5, cyn belled â'u bod yn ymwneud ag un o'r meysydd polisi datganoledig sydd wedi'u pennu yn yr atodlen.  Gallant gael eu hychwanegu naill ai drwy:

  • eu cynnwys yn un o Ddeddfau Seneddol y DU, neu
  • drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor (a elwir yn Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO)).

Pa ffordd bynnag a ddefnyddir, dim ond gyda chaniatâd Senedd y DU y gellir ychwanegu Materion newydd at Atodlen 5.  Golyga hyn y bydd y meysydd polisi y mae'r Cynulliad yn gallu pasio deddfau yn eu cylch yn cael eu hychwanegu'n raddol at Atodlen 5, fesul achos, trwy gytundeb y Senedd.

Gallwch weld cyfarwyddyd pellach ar bwerau presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru)

3. Beth petai gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu llawn o dan Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, beth fyddai hynny yn ei olygu?

Petai gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau deddfu llawn byddai'n gallu pasio cyfreithiau, a elwir yn Ddeddfau, ym mhob un o'r meysydd polisi datganoledig.  Byddai'n cael y pwerau hyn i gyd ar yr un pryd, os a phryd y deuai Rhan 4 i rym.

Byddai gan y Cynulliad Cenedlaethol felly bwerau anghyfyngedig i basio Deddfau ym mhob un o'r meysydd polisi datganoledig.  Ni fyddai angen iddo geisio cael cytundeb y Senedd, fesul achos unigol.

Mae'r meysydd polisi lle byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio Deddfau yn eu cylch, h.y. yr ystod lawn o feysydd polisi datganoledig, wedi'u pennu yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraethu Cymru 2006. 

4. Sut a phryd y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael pwerau deddfu llawn? 

Ar hyn o bryd, nid oes gan y Cynulliad bwerau deddfu llawn, gan nad yw Rhan 4 ac Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn grym.

Er mwyn gallu trosglwyddo pwerau deddfu llawn, byddai'n rhaid i ddwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol a mwyafrif o blith yr Aelodau Seneddol, yn ogystal ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gytuno i alw refferendwm ar y mater. 

Petai'r mwyafrif o'r rhai hynny a bleidleisiodd mewn refferendwm o blaid, byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael y pŵer i ddeddfu ym mhob un o'r meysydd a bennir yn Atodlen 7 (h.y. ym mhob un o'r meysydd polisi datganoledig) heb fod angen gofyn am ganiatâd gan San Steffan ar gyfer pob achos unigol.

5. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i basio Mesurau a phwerau gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru?

Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i basio Mesurau yn bwerau newydd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae effaith Mesurau o'r fath yn debyg i effaith Deddf Seneddol.  Nid oes gan y Cynulliad y pwer i basio Mesurau ym mhob un o'r meysydd polisi datganoledig, dim ond yn y meysydd hynny a restrir yn Atodlen 5 (o ganlyniad iddynt gael eu cynnwys yn un o Ddeddfau Seneddol y DU, neu mewn Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO)). 

Mae gan Weinidogion Cymru, sy'n ffurfio Llywodraeth Cynulliad Cymru (yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru), bwerau gweithredol mewn ystod eang o feysydd polisi - yn sylfaenol yn y meysdd polisi sydd wedi eu datganoli yng Nghymru.

Mae'r pwerau gweithredol hyn yn cynnwys pwerau i basio is-ddeddfwriaeth (hynny yw, deddfwriaeth sy'n eilaidd i Ddeddfau Seneddol neu i Fesurau); i gyhoeddi canllawiau ac i bennu cyfeiriad polisi mewn meysydd polisi datganoledig yng Nghymru.

Weithiau, nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddigon o bwerau gweithredol i symud ei pholisïau yn y meysdd polisi datganoledig yn eu blaen.  Ar adegau fel hyn, mae angen iddi gael pwerau pellach naill ai trwy Ddeddfau Seneddol neu drwy Fesurau'r Cynulliad.

Dolenni perthnasol

Cysylltwch â ni i dweud eich dweud neu i ymholi.