Cymru’n Un
Mae sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan yn ymrwymiad a wnaed ym mis Mehefin 2007 yn rhaglen lywodraethu'r glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Mae'r rhaglen lywodraethu wedi'i hamlinellu yn y ddogfen 'Cymru'n Un' sy'n disgrifio beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud dros y pedair blynedd nesaf.
Yn y ddogfen 'Cymru'n Un', mae'r ddwy blaid yn ymrwymo i ddefnyddio pwerau deddfu presennol y Cynulliad i'r eithaf, ac i ymgyrchu o blaid canlyniad llwyddiannus i refferendwm ar bwerau deddfu llawn i Gymru.
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn paratoi ar gyfer refferendwm posibl ar bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yn ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd ledled Cymru, er mwyn ysgogi trafodaeth am:
- lwyddiant y pwerau sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn barod; ac am
- yr achos posibl dros symud at bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad.
Ewch i dudalennau w Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Cymru'n Un (cyswllt allanol).
