Y Cyfarfod Cyntaf
Erbyn 14eg Gorffennaf, roeddem yn barod i ddechrau gwaith - a hynny'n gyflym iawn o ystyried popeth yr oedd angen ei wneud.
Roedd y dalent a oedd gennym yn yr ystafell, a pharodrwydd y tîm i gymryd rhan mewn dadl iach yn galonogol iawn. Gwnaeth bawb gyfraniad brwd - pob un â barn a safbwynt gwahanol, gan godi llais dros eu rhanbarthau a buddiannau penodol. Cwmpasodd yr ystod hon o ddadleuon y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd Cymru, ond yn amlwg ni all 16 o aelodau gwmpasu popeth. Fodd bynnag, wrth i'n gwaith fynd rhagddo, bydd gan bawb yng Nghymru gyfle i gymryd rhan yn y broses, ac i gynnig safbwyntiau a sylwadau.
Mae pob un ohonom yn credu bod yn rhaid i'r Confensiwn fod yn agored, yn agored i bob barn, ac yn hygyrch i bawb. Mae'r Aelodau'n adlewyrchu hyn, ac rydym am ymgysylltu â phob rhan o Gymru. Yn benodol rydym am annog ymgysylltu gan bobl a sefydliadau nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan yn y mathau hyn o faterion. Mae sefydliadau wedi dweud eisoes eu bod am weithio gyda ni a chyfrannu at y broses. Maent hefyd wedi cynnig cymorth ymarferol drwy ddosbarthu gwybodaeth.
Ar eu rhan hwy, bydd aelodau unigol y Pwyllgor, yn ogystal â'r Pwyllgor cyfan, yn meithrin cysylltiadau helaeth dros y misoedd nesaf i egluro gwaith y Confensiwn, a chasglu ymatebion a barn i lywio'r Adroddiad terfynol.
Gwnaethom drafod y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu ar hyn o bryd, manteision y system bresennol, a'r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol. Rydym am helpu i egluro goblygiadau datganoli, a byddwn yn ceisio sbarduno dadl eang yng Nghymru ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor Gweithredol ei fod am glywed pob barn a phrofi safbwyntiau a gyflwynir iddo yn gadarn. Gwnaethom gytuno i wrando'n ofalus ac adrodd yn wrthrychol. Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chymunedau ac unigolion ledled Cymru, yn ogystal â Chymdeithas Sifil, mewn modd mor eang â phosibl. Maes o law, byddwn yn amlinellu'r ffyrdd gwahanol y gall pobl a sefydliadau gyfrannu.
Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 29 Gorffennaf yng Nghaerdydd a phob 3-4 wythnos ar ôl hynny. Yn ein cyfarfod nesaf rydym yn bwriadu diffinio ein rhaglen waith a llunio cynlluniau gweithredu manwl i ddatblygu ein gwaith.
Emyr
