Pwerau deddfwriaethol
Mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sydd ar waith yng Nghaerdydd yn deillio o benderfyniadau a wnaed gan weinidogion heb fod angen cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn meysydd fel addysg ac iechyd, mae gweinidogion yn gwneud penderfyniadau o dan bwerau a roddwyd iddynt mewn deddfwriaeth a fabwysiadwyd yn flaenorol yn San Steffan. Yn yr un modd, gallant weithredu cyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd.
Mae gan y Cynulliad ei bwerau ei hun i basio deddfau, a elwir yn Fesurau. Dim ond yng Nghymru y mae'r rhain yn gymwys ac maent yn cyfateb i Ddeddfau Seneddol a gymeradwywyd gan San Steffan. Mae Mesurau'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol, hynny yw cyfraith nad yw o ganlyniad i ddeddfwriaeth bresennol nac yn deillio ohoni, ond a lunnir yn y Cynulliad ac a gytunir gan y Cynulliad.
Hyd yma, mae pwerau'r Cynulliad i basio Mesurau wedi'u cyfyngu i feysydd polisi penodol lle mae wedi cael pwerau deddfu. Mae Deddf 2006 yn nodi 20 o feysydd y gallai'r Cynulliad gael cymhwysedd i ddeddfu ynddynt. Gallai hyn ddigwydd mewn un o ddwy ffordd:
Yn gyntaf, gall y Cynulliad gyflwyno deiseb i ddau D?'r Senedd i drosglwyddo rhan o un o'r meysydd hyn i'r Cynulliad. Os cytunwyd ar hynny, byddai'r Cynulliad wedyn yn gallu pasio mesurau yn y maes a drosglwyddwyd. Mae'r dull hwn yn fodd i wella'n sylweddol ar gwmpas y Cynulliad i fabwysiadu deddfwriaeth sylfaenol.
Y dewis amgen fyddai cytuno ar gymhwysedd y Cynulliad i weithredu ym mhob un o'r 20 o feysydd ar yr un pryd mewn un penderfyniad. Byddai hyn yn gweithio fel a ganlyn. Mae Deddf 2006 yn caniatáu i'r Cynulliad gynnig refferendwm y Cymry. Os cytunwyd ar hynny gan ddau D?'r Senedd, a phe bai'r mwyafrif yn pleidleisio o'i blaid, yna byddai'r pwerau ym mhob un o'r 20 o feysydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad, a fyddai wedyn yn ei wneud yn gymwys ac yn ei alluogi i basio cyfreithiau, a elwir yn Ddeddfau, yn unrhyw un o'r meysydd hyn ar unwaith.
Bydd y Confensiwn yn annog trafodaeth ynghylch a yw rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddymunol. Beth fyddai goblygiadau'r cynnydd mewn pwerau i'r Cynulliad, y gwasanaeth sifil, y gymdeithas sifil, awdurdodau lleol a phawb arall â diddordeb. Yn benodol beth yw manteision ac anfanteision y ddau lwybr. Mae angen barn pobl Cymru arnom ar y gwahanol agweddau.
