Skip to content

Chwe mis ar y ffordd ... beth rydych chi wedi bod yn ei ddweud wrthym?

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Chwe mis ar y ffordd ... beth rydych chi wedi bod yn ei ddweud wrthym?

Wrth i daith chwe mis Confensiwn Cymru Gyfan o amgylch Cymru ddod i ben, mae Syr Emyr Jones Parry yn adlewyrchu ar ei daith mewn llythyr a gyhoeddwyd gan y Western Mail ar yr 2il o Orffennaf 2009.

Daeth cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus Confensiwn Cymru Gyfan i ben ddydd Iau 25 Mehefin mewn digwyddiad Hawl i Holi yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd; roedd yn benllanw ar daith chwe mis o gwmpas y wlad, fel rhan o'n hymdrechion i geisio barn pobl Cymru ar bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Pan gyfarfu Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2008, roedd y cylch gwaith yn glir - sbarduno trafodaeth ar ddyfodol pwerau deddfu yng Nghymru a rhoi cyfle i bobl Cymru leisio eu barn. Tasg anodd! Mae'r broses ddeddfu yn gymhleth a haniaethol.

Fodd bynnag, mae deddfu'n hollbwysig i'n bywydau bob dydd. Mae deddfau yn galluogi Llywodraethau i weithredu eu maniffestos. Heb ddeddfau ni fyddai gwaharddiad ar ysmygu na phresgripsiynau am ddim. Mae angen deddfau ar lywodraethau i roi polisïau ar waith. Mae deddfau yn hanfodol i'n diogelu ac yn rhan greiddiol o ddemocratiaeth.

Tasg gyntaf y Pwyllgor Gweithredol oedd cytuno ar raglen waith a fyddai'n cyfleu holl elfennau ein cylch gwaith mewn ffordd greadigol. Mae saith elfen i'n strategaeth; ymchwil gymdeithasol, casglu tystiolaeth, gweithio gyda phartneriaid, gweithio gyda phobl ifanc, e-gyfathrebu, cysylltiadau â'r wasg a rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau cyhoeddus.

Mae cyfathrebu yn her yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud ein gorau i ymgysylltu â'r cyfryngau, yn lleol ac yn genedlaethol, i sicrhau bod neges y Confensiwn yn cael ei darllen a'i chlywed ledled Cymru.

Mae gennym wefan ryngweithiol a gr?p bywiog ar Facebook. Hyd yn hyn rydym wedi cael dros 400 o ddarnau o dystiolaeth swyddogol gan sefydliadau, ysgolion, gwleidyddion a'r cyhoedd.

Wrth wraidd ein rhaglen waith roedd ein rhaglen digwyddiadau cyhoeddus. Nod ein rhaglen o ddigwyddiadau ym mhob rhan o Gymru oedd cynnwys cynulleidfa mor amrywiol â phosibl yn y drafodaeth.  Gwnaethom gynnal sioeau teithiol a diwrnod teuluol i drafod materion gyda phobl nad oeddent wedi bod yn rhan o drafodaeth wleidyddol o'r blaen. Gwnaethom hefyd gynnal grwpiau trafod a sesiynau Hawl i Holi ledled Cymru.

Mae'r digwyddiadau llwyddiannus hyn wedi ildio tystiolaeth werthfawr. Mae teithio o amgylch y wlad wedi rhoi dealltwriaeth dreiddgar i mi o farn pobl Cymru. Cafwyd dadleuon cryf ar y ddwy ochr.

O ran y dadleuon o blaid cael yr holl rymoedd ar unwaith, dywedwyd wrthym nad yw'n ddemocrataidd i'r Cynulliad orfod mynd at Senedd y DU bob tro y mae am gael y pwerau i wneud newidiadau yng Nghymru - ac i ASau benderfynu a yw'r ceisiadau hyn yn briodol ai peidio. Os yw datganoli wedi digwydd go iawn, pam na all y Cynulliad fwrw ati i lunio deddfau a pheidio â defnyddio adnoddau prin er mwyn cael yr hawl i ddeddfu?

Rydym hefyd wedi clywed y ddadl bod cael pwerau cam wrth gam yn ei gwneud yn anodd defnyddio dull strategol o fynd i'r afael â materion trawsbynciol. Byddai cael yr holl bwerau angenrheidiol o'r cychwyn cyntaf yn llawer symlach nag ennill y cymhwysedd ym mhob un o'r meysydd hyn ar wahân cyn gallu gweithredu.

Dadl amlwg arall yw y byddai dod â'r holl bwerau i Gaerdydd gyda'i gilydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddeall yn union pwy sydd â ph?er dros beth - ar hyn o bryd mae'r system yn ddryslyd, yn gymhleth ac yn newid. Mae'r system anhryloyw hon yn arwain at ddiffyg gwybodaeth sy'n niweidiol i ddemocratiaeth.

Fodd bynnag, mae'r dadleuon yn erbyn cael y pwerau gyda'i gilydd yr un mor ddifyr. Un o'r dadleuol mwyaf treiddgar yw nad yw'r Cynulliad wedi cael y cyfle eto i ymgyfarwyddo â'r system gyfredol a bod angen iddo roi mwy o amser i'r system ymsefydlu cyn symud ymlaen. 

Mae'r system o geisio pwerau unigol yn dechrau gweithio'n haws a bydd yn parhau i wella wrth ei harfer.

Elfen arall o'r ddadl yw bod cael ASau i ystyried pwerau posibl i Gymru yn synhwyrol, yn werthfawr ac yn ddemocrataidd. Mae llawer o'r farn y dylai ASau Cymru gael rôl weithredol yn y gwaith o bennu pwerau'r Cynulliad. Hynny yw, mae craffu yn dda i'r broses ddemocrataidd.

Wrth gwrs, mae rhai o'r farn bod cael trafodaeth ar ragor o bwerau i'r Cynulliad yn amhriodol ar hyn o bryd o ystyried yr argyfwng economaidd cyfredol a'r helynt ynghylch treuliau ASau. Anghytunaf. Mae gwleidyddiaeth yn bwysig. Mae democratiaeth yn bwysig. Bob tro.

Rwy'n falch mai Gwleidyddion sy'n gyfrifol am benderfynu p'un a ddylid cynnal refferendwm, nid y fi na'r Confensiwn. Ond ceir digon o enghreifftiau sy'n dangos nad y mater dan sylw yn unig sy'n dylanwadu ar ganlyniad refferendwm; daw'n refferendwm ar berfformiad y Llywodraeth gyfredol. Yng ngeiriau Bill Clinton "it's the economy stupid".

Hefyd, yn wyneb yr helynt am dreuliau ASau mae pobl wedi colli ffydd mewn gwleidyddion yn gyffredinol. Yn ôl Arolwg Barn diweddar gan Ipsos MORI ar Dreuliau, cred 75% bod angen i'r system gyfredol o lywodraethu Prydain wella'n sylweddol. A fydd pobl yn gwahaniaethu rhwng ASau ac ACau? A fydd y datgeliadau yn gwneud i bobl feddwl y gallai'r Cynulliad wneud yn well heb arweiniad San Steffan? Neu a fydd sinigiaeth yn arwain at wrthwynebu rhoi rhagor o b?er i unrhyw wleidyddion, waeth pa sefydliad y maent yn aelodau ohono?

Felly beth sydd nesaf i'r Confensiwn? Byddwn yn parhau i gwrdd â phobl a sefydliadau i gasglu tystiolaeth; mynd i ddigwyddiadau a gweithredu ein rhaglen ymchwil gymdeithasol. Daw ein hymgynghoriad i ben ar 21ain Awst. Ar ôl hynny byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu a chytuno ar adroddiad i'w gyflwyno gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd. Rydym yn agosáu at gam olaf y ddadl ar ddatganoli, felly sicrhewch eich bod yn defnyddio eich hawl ddemocrataidd i leisio'ch barn.

Syr Emyr Jones Parry