Skip to content

Alex Aldridge

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Alex Aldridge

Enwebwyd Alex o Dref y Fflint gan Blaid Lafur Cymru

Alex AldridgeBle cawsoch eich geni a'ch magu?

Cefais fy ngeni a'm magu yn y Fflint - rwy'n 'Flinter' neu'n 'Flintstone' i'r carn. Des i mewn i'r byd hwn yn ystafell flaen (y parlwr os ydych yn grand) t? teras yn rhif 185 Ffordd Caer. Rwy'n un o wyth o blant - pum chwaer a dau frawd. Yn anffodus mae fy rhieni Frank a Prudy wedi marw ond mae gennyf atgofion amhrisiadwy ohonyn nhw.

Teulu:

Rwy'n briod ag Annette ers 38 o flynyddoedd. Mae Annette yn Gynghorydd Tref lleol, mae'n gwasanaethu fel Ynad ac yn gweithio yn yr ysbyty cymuned lleol. Mae gen i ferch, Stephanie, sy'n Swyddog Llywodraeth Leol yn arbenigo yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.  Mae gen i fab, Ian, sydd wedi bwrw ei brentisiaeth fel asiwr a pheiriannwr. Mae hefyd yn dechnegydd gyriant ar ôl gwasanaethu am bron wyth mlynedd yn y Llu Awyr. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni Airbus. Bu'n bencampwr ABA Cymru ddwywaith ac yn bencampwr y Lluoedd Cyfun ddwywaith hefyd. Mae'n focsiwr dosbarth agored ac wedi cael gyrfa nodedig.

Dwedwch wrthym am eich gyrfa:

Rwyf wedi gwneud pob math o swydd.  Cyn dechrau gweithio yn adran cynnal a chadw Gwaith Dur Shotton fe fues i'n gweithio fel dyn llaeth ac yn hyfforddi i fod yn saer ar un o raglenni'r llywodraeth. Rwyf wedi cael cysylltiadau cryf â'r undeb llafur erioed ac rwyf wedi bod yn gynrychiolydd undeb lawer gwaith. Ymunais â'r Blaid Lafur dros 30 o flynyddoedd yn ôl ac rwyf wedi bod yn aelod gweithredol drwy gydol y cyfnod hwnnw.

Beth yw eich diddordebau a'ch hobïau?

Fel y byddech yn disgwyl mae gennyf ddiddordeb mawr mewn Gwleidyddiaeth, rwy'n hoffi darllen hunangofiannau, Ffilmiau, pob math o gerddoriaeth. Fy hobïau yw carafanio, pêl-droed tîm - anorchfygol Man Utd wrth gwrs - pencampwyr unwaith eto! - golff, bocsio.

Beth rydych chi'n ymfalchïo fwyaf ynddo?

Pan sefais mewn etholiad i fod yn Gynghorydd am y tro cyntaf a rhoddwyd pleidlais o ffydd i mi drwy'r blwch pleidleisio gan y bobl rwyf wedi byw gyda hwy yn y dref lle cefais fy ngeni - ni ellir disgrifio'r teimlad. Yn ail cael fy OBE gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Charles gyda'm teulu yn edrych arnaf yn llawn balchder.

Dwedwch rywbeth wrthym na fyddai neb arall yn ei wybod?

Wiw i mi ddweud wrthych, bydden nhw'n ailgyflwyno alltudiaeth orfodol i'r gwladfeydd.

Petaech yn anifail, pa un fyddech chi?

Eliffant, cysylltiadau teuluol cryf, dim gelynion naturiol ac eithrio dyn wrth gwrs beth rydych chi'n ei ddisgwyl!

Pa dri unigolyn (marw neu fyw) fyddech chi'n eu gwahodd i ginio yn eich cartref?

Muhammed Ali y gorau erioed, Nelson Mandela person unigryw, Bill Clinton un o'r gwleidyddion mwyaf craff erioed.

Pam roeddech chi am fod ar Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan?

Heb air o gelwydd rwy'n credu y gall profiadau fy mywyd, yn rhai da ac yn rhai dibwys, gael dylanwad ni waeth pa mor fach ydyw ar y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud gan bawb sydd wedi rhoi'n hael o'u hamser i fod yn rhan o'r tîm hwn. Yn bwysicach na hynny, fodd bynnag, fydd ein trafodaethau terfynol; am ei bod yn eithaf amlwg os gwneir rhai penderfyniadau y gall tirlun llywodraeth ddatganoledig newid yn ddirfawr ac yn ddiwrthdro.

Beth hoffech ei ddweud wrth bobl Cymru am Gonfensiwn Cymru Gyfan? 

Neges i bobl Cymru - gwnaethon nhw benderfyniad hollbwysig rai blynyddoedd yn ôl drwy gytuno i sefydlu Llywodraeth Cynulliad yma yng Nghymru i bobl Cymru. Mae'r cam nesaf yn y broses esblygiadol hon o gynrychiolaeth yn cael ei baratoi gan y confensiwn i'r cyhoedd ei archwilio, craffu arno a chyflwyno sylwadau arno a gall arwain at y confensiwn yn gorfod gwneud datganiad o fwriad a allai newid y tirlun cynrychioliadol cyfan yn llwyr ac mae'n hanfodol bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac felly eu cofnodi. Dim ond wedyn y gall y confensiwn fod yn sicr bod unrhyw argymhelliad y mae'n ei gynnig ar ôl hynny yn seiliedig ar wybodaeth gadarn. Cymerwch ran.