Harry Ludgate
Ble cawsoch eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd, priodais ferch o Gaerdydd, rwyf wedi byw yno drwy gydol fy oes ar wahân i dair blynedd pan fues i yn y brifysgol a naw mlynedd pan fu'r teulu yn byw yng Ngwlad Belg.
Ble rydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.
Teulu:
Rwy'n briod ac mae gen i fab sy'n gweithio yn y cyfryngau a merch sy'n feddyg.
Dwedwch wrthym am eich gyrfa:
Fe fues i'n gweithio fel hyfforddai graddedig i Adran Cynhyrchion Glo y Bwrdd Glo pan adewais y coleg, wedyn ymunais â chwmni Dow Corning yn y Barri ac rwyf wedi gweithio i'r cwmni hwnnw mewn llawer o swyddi byth oddi ar hynny. Ymddeolais y llynedd ar ôl 34 o flynyddoedd o wasanaeth.
Beth yw eich diddordebau a'ch hobïau?
Rwy'n ynad ar Fainc Caerdydd a'm hobïau yw cerdded, teithio a sgïo.
Beth rydych chi'n ymfalchïo fwyaf ynddo?
Fy nheulu.
Pam roeddech chi am fod ar Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan?
Am fy mod yn credu'n gryf y dylid arfer democratiaeth mor lleol â phosibl, ac mae Confensiwn Cymru Gyfan yn galluogi i bobl Cymru fynegi eu barn yngl?n â pha bwerau a ddylai fod gan y Cynulliad.
Beth hoffech ei ddweud wrth bobl Cymru am Gonfensiwn Cymru Gyfan?
Eich barn chi sy'n bwysig i ni a dim byd arall. Mae'r Confensiwn yn gyfle i chi leisio eich barn ac rwy'n annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw.
