Marc Phillips
Ble cawsoch eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd. Cefais yn magu yn Aberpennar a Dowlais. Yng Nghydweli mae gwreiddiau'r teulu.
Ble rydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd
Teulu:
Rwy'n briod ers 32 o flynyddoedd. Mae fy ngwraig, Elaine, yn uwch diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion. Dau fab. Tri ŵyr.
Dwedwch wrthym am eich gyrfa:
Rwyf wedi treulio fy mywyd yn y sector gwirfoddol. 9 mlynedd gyda'r Urdd, 9 mlynedd gyda Chymdeithasu Gwasanaeth Gwirfoddol Dyfed, 7 mlynedd fel Prif Weithredwr Tenovus, ac ers 2002 Pennaeth Apêl Plant mewn Angen y BBC yng Nghymru.
Beth yw eich diddordebau a'ch hobïau?
'Y Blues' a wisgi brag (er eglurhad: Mae'r 'Blues' yn cyfeirio at y gerddoriaeth nid y tîm rygbi. Mae gen i gryn dipyn o waed Sgarlad yn fy ngwythiennau!). Er bod llawer o'm "hamser hamdden" mewn gwirionedd yn cael ei lyncu gan wahanol sefydliadau (Rwy'n ymddiriedolwr i nifer o gyrff yn amrywio o theatr mewn addysg i Chwarae Cymru a chynlluniau hyfforddi galwedigaethol), fy aelodaeth o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a'r dyletswyddau amrywiol ac ymestynnol (a hwyliog) sy'n gysylltiedig â bod yn dad-cu i dri ŵyr bywiog.
Beth rydych chi'n ymfalchïo fwyaf ynddo?
Pedair blynedd ddwys ond boddhaus (1996-2000) fel Cadeirydd Plaid Cymru yn ystod cyfnod a welodd Etholiad Cyffredinol, etholiad Ewropeaidd, etholiadau lleol, y Refferendwm, yr etholiadau cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol, cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth a chyfansoddiad y blaid yn cael ei ailysgrifennu yn gyfan gwbl! Yn ogystal â dyletswyddau cenedlaethol Cadeirydd y blaid fe fues i hefyd yn ymgeisydd ddwywaith a rywsut llwyddais i wneud swydd lawn amser y tu allan i fyd gwleidyddiaeth.
Dwedwch rywbeth wrthym amdanoch chi eich hun na fyddai neb arall yn ei wybod?
Fi oedd y gwleidydd tramor cyntaf i annerch cyfarfod agoriadol Senedd Alltud Cwrdistan yn yr Hâg.
Petaech chi'n anifail, pa un fyddech chi?
Barcud. Meddyliwch am y golygfeydd... ac wrth gwrs symbol o ailsefydlu hunaniaeth Gymreig ar ôl yr hyn yr ystyrid ei fod yn ddirywiad terfynol.
Pa dri unigolyn (marw neu fyw) fyddech chi'n eu gwahodd i ginio yn eich cartref?
(gyda phob parch i'r byw rwy'n credu ei bod yn fwy diogel dewis o blith y marw) Spike Milligan (i ddiolch iddo am Puckoon, dathlu uchafbwyntiau ei athrylith fel digrifwr a maddau'r isafbwyntiau iddo); Harri Webb (am fy mod yn gweld eisiau ei gwmni a'r sylwadau chwerw ar sefyllfa Cymru - beth fyddai ei farn ohonom heddiw?..); a Long John Baldry am ei bresenoldeb rhyfeddol ar y llwyfan, ei wybodaeth hollgynhwysfawr am y blues, a'i ddefnydd gwych o iaith.
Pam roeddech chi am fod ar Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan?
Mae'n gyfle perffaith i mi gymhwyso fy mhrofiad gwleidyddol at broses sydd â nod clir o fewn golwg ac a fydd yn cael effaith fawr ar ddyfodol Cymru. Mae arwyddocad enfawr i faterion cyfansoddiadol ac maen nhw'n haeddu cael eu trafod yn rhesymegol, yn aeddfed ac yn briodol. Yn rhy aml o lawer cânt eu diraddio gan ymagweddu cyffrowyr heb fod realaeth yn perthyn iddyn nhw. Mae'r Confensiwn yn gyfle i barchu deallusrwydd pobl Cymru.
Beth hoffech ei ddweud wrth bobl Cymru am Gonfensiwn Cymru Gyfan?
Carpe Diem. Beth bynnag fo eich barn, nid dyma'r amser i gadw'n dawel. Cofiwch ddweud eich dweud. Mae'r Confensiwn yn ymrwymedig i roi cyfle i leisio pob safbwynt. Mae'n gyfle ac yn gyfrifoldeb a roddwyd i'r genhedlaeth hon yn unig. Ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni petaem yn gwrthod ymgymryd â'r dasg. Achubwch ar y cyfle.
