Skip to content

Shân Ashton

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Shân Ashton

Enwebwyd Shân gan Gynghrair Genedlaethol Menywod Cymru.

Shân AshtonBle cawsoch eich geni a'ch magu?

Cefais fy ngeni ym Mhontrhydyfen, De Cymru a'm magu ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion

Ble rydych chi'n byw yn awr?

Capel Curig ers 1973

Teulu:

Dwy ferch wych sy'n gwneud pethau gwych ac yn byw gerllaw, sydd bob amser yn fy ysbrydoli i wneud popeth yn well; Rwy'n lwcus iawn gyda'm teulu ehangach a'm ffrindiau hefyd - byddwn ar goll hebddyn nhw, maen nhw'n gefn i mi.

Dwedwch wrthym am eich gyrfa:

Dechreuais fel gweithwraig/glanhawraig ddomestig gyffredinol mewn gwestai a chanolfannau mynydda yn Eryri - unrhyw beth cyhyd ag y gallwn fod yng nghanol fy mynyddoedd annwyl a chefn gwlad Cymru. Ar ôl cael plant - fe fues i'n rhedeg y Cylch Meithrin yng Nghapel Curig, yn gwirfoddoli ar bwyllgor carnifal y pentref, pwyllgor neuadd y pentref, fe fues i'n eistedd ar wahanol bwyllgorau gyda Mudiad Ysgolion Meithrin hyd at lefel genedlaethol.

Es i i'r Brifysgol fel myfyriwr aeddfed am fy mod i am newid pethau yn y byd, am fy mod i wedi cael llond bol ar yr anghydraddoldeb yr oeddwn yn ei weld o'm cwmpas. Enillais radd mewn Cymdeithaseg, gwnes i ymchwil ar gysylltiadau rhwng y rhywiau ar ffermydd teuluol yng Nghymru ac fe fues i'n dysgu yn y Coleg Normal a'r Brifysgol.

Fe fues i'n ymwneud ag addysg ers hynny - rwy'n gwbl ymrwymedig i ddysgu llawr gwlad i sicrhau newid. Fe fues i'n ddigon ffodus i gwrdd â Selwyn Williams a hanes yw'r gweddill fel y dywedan nhw...sefydlon ni'r Uned Datblygu Cymunedol a byth oddi ar hynny fe fuon ni'n gysylltiedig â dysgu ar gyfer datblygu cymunedol. Datblygu cymunedol yw swm a sylwedd fy mywyd i, agorwyd fy llygaid yn ystod ymweliad â Nicaragua flynyddoedd lawer yn ôl...dyna pryd daeth gwleidyddiaeth yn rhywbeth real i mi pan fyddwch yn gweld effeithiau eithafol cyfalafiaeth ac imperialaeth â'ch llygaid eich hunain, y niwed go iawn y mae'r rhain yn ei achosi i bobl ac i'r blaned.  Credaf y gallwn edrych yn nes at gartref hefyd....

Dechreuodd grwp hynod greadigol o ferched y Dip/MA mewn Astudiaethau Menywod ym Mhrifysgol Bangor, cwrs / achos arall a chyfranogwyr sy'n agos at fy nghalon. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol ym mywydau merched yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae'n dal yn anghredadwy bod merched yn ennill llai a bod ganddyn nhw lai o gynrychiolaeth ar lefelau gwneud penderfyniadau mewn gwlad fel Cymru, heb sôn am y materion eraill...mae'n ymwneud â mwy na niferoedd syml, mae'n ymwneud ag ansawdd swyddi a bywyd, â chydraddoldeb a chyfle.

Beth yw eich diddordebau a'ch hobïau?

Gwirfoddoli yn fy nghymuned; helpu pobl i godi arian ac yn bwysicach na dim gwella dyheadau'r gymuned; garddio pan fydd gen i amser, cerdded pan fydd gen i amser, darllen pan fydd gen i amser.

Beth rydych chi'n ymfalchïo fwyaf ynddo?

Fy merched; bod yn rhan o'm cymuned/au; sefyll dros fy egwyddorion;  helpu i sefydlu a rhedeg y Rhaglenni Astudiaethau Menywod a Datblygu Cymunedol; adnabod pobl sy'n gwneud i chi deimlo'n falch eich bod yn fyw ac a fydd, mi wn, yn gwneud Cymru a'r byd yn lle gwell i fod ynddo.

Dwedwch rywbeth wrthym amdanoch chi eich hun na fyddai neb arall yn ei wybod?: Mae fy mywyd yn llyfr agored ac rwy'n siarad llawer (gweler uchod!!!) ac yn dweud popeth wrth bawb, felly ni alla' i feddwl am unrhyw beth yn benodol.  Wel...Alla' i ddim byw mewn lleoedd gwastad, mae'n rhaid i mi fod yn y mynyddoedd - mae'n fwy na rhywbeth corfforol, mae'n seicolegol hefyd!

Petaech chi'n anifail, pa un fyddech chi?

Byddwn yn dewis un o'r tri anifail canlynol:
1: ci defaid du a gwyn - mae pawb yn eu caru ac mae'n ymddangos eu bod yn mwynhau popeth ac maen nhw'n fy ngwneud i'n hapus!
2: Cob Cymreig - y fath harddwch a chymeriad, cryfder a defnyddioldeb
3: dafad fynydd Gymreig - er gwaethaf yr hyn y mae pawb yn ei feddwl amdanyn nhw, mae defaid mynydd Cymreig yn famau ffyrnig, maen nhw'n ddewr ac yn gadarn ac mae ganddyn nhw lygaid hardd ond meddylgar iawn

Pa dri unigolyn (marw neu fyw) fyddech chi'n eu gwahodd i ginio yn eich cartref?

Nid yw tri yn ddigon, felly:

1. Garnedd Wyn Roberts ( ffermwr defaid lleol ac awdur sy'n ymddiddori ym mhpeth ac sy'n gwybod llawer mwy nag y mae'n sylweddoli);
2. Angharad Tomos ( caredigrwydd a doethineb yn y cnawd, gyda dealltwriaeth wleidyddol ddofn a phlethwr diwylliant);
3. Anisur Rahman (economydd gwahanol sy'n credu yn hunanddatblygiad pobl a'u hawl i gael eu trin ag urddas a pharch);
4. Marilyn Waring ( economydd ffeministaidd y dylai eu llyfrau gael eu darllen unwaith eto gan bawb, y fath graffter);
5. Richard Douthwaite ('economydd wedi gwrthgilio', dyn y dylai ei syniadau am olew brig a chostau amgylcheddol ein systemau cynhyrchu presennol gael eu hystyried);
6. Nawal al Sadawi ( merch o'r Aifft a meddylwraig sy'n amau'r hyn sydd y tu hwnt i amheuaeth ac sy'n herio'r rhai grymus ac yn llwyddo i chwerthin a gwenu serch hynny);
7. Ben Gregory ( ymgyrchydd lleol a byd-eang - sy'n cadw i fynd ac yn rhoi pob un arall o'i flaen ei hun);
8. Sara a Medi Ashton a Gai Tomos - (sydd i gyd yn ymgyrchwyr yn eu ffordd eu hunain a fyddai'n cyfrannu mewn ffordd mor ddeallus a sensitif at unrhyw sgwrs a dod â lleisiau mwy newydd, ifancach i mewn i'r broses a safbwyntiau mwy newydd).

Pam roeddech chi am fod ar Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan?

Doeddwn i ddim am fod arno ond cefais fy enwebu gan Glymblaid Menywod Cymru. Parodrwydd i wneud rhywbeth drostyn nhw a ddaeth â mi at y bwrdd. Fy agwedd arferol at y pethau hyn yw bod ar y tu allan, lle rwy'n feirniadol ac yn sinigaidd tu hwnt. Es i i'r cyfarfod cyntaf a phenderfynu rhoi cynnig arno, rwy'n dal i wylio rhag cael fy nghynnwys mewn system sy'n well na dim ond sy'n ddiffygiol ac yn annigonol (gyda phob parch i'r rhai sy'n gwneud eu gorau i sicrhau ei bod yn gweithio)...rwy'n gobeithio cyfrannu at broses sy'n arwain at ddemocratiaeth gyfranogol, fwy cynhwysol.

Beth hoffech ei ddweud wrth bobl Cymru am Gonfensiwn Cymru Gyfan?

Yn debyg i'r rhan fwyaf ohonoch rwy'n sinigaidd iawn ynghylch gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ond dyma gyfle prin i chi i gyd gyfrannu at y drafodaeth ynghylch cael mwy o bwerau ai peidio i Gynulliad Cymru. Ewch i'r wefan os ydych yn gwybod sut i ddefnyddio'r pethau hynny,  ffoniwch y pencadlys a gofyn am sesiwn yn eich ardal CHI / gyda'ch cymuned / grwp CHI fel y gallwch drafod mwy ynghylch goblygiadau unrhyw benderfyniad a wneir, cael gwybod beth y mae'r Cynulliad wedi'i wneud i ni a beth arall y gallai ei wneud pe bai ganddo bwerau pellach. Os na fyddwch yn mynnu bod yn rhan o'r drafodaeth bydd yn mynd ymlaen hebddoch chi a gwneir penderfyniadau hebddoch chi a heb eich cymuned neu'ch rhanbarth. Peidiwch â throi eich cefn ar y cyfle hwn, sicrhewch fod y Confensiwn yn gweithio'n galetach i chi, ei fod yn dod i gyfarfod â chi, yn ateb eich cwestiynau, yn gwneud ymchwil ar eich rhan. Gwnewch yn siwr mai eich Confensiwn CHI yw e.