Cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan: 9 Gorffennaf 2009
Cynhaliwyd nawfed cyfarfod y Pwyllgor Gweithredol ar y 9ed Gorffennaf.
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith gyda'r digwyddiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ar draws Cymru. Daeth y rhaglen o ddigwyddiadau i ben ar y 25ain o Fehefin gyda 150 o bobl yn dod i'r digwyddiad olaf yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a dechrau ystyried sut i ddadansoddi'r dystiolaeth.
Daeth aelodau o Adran Gyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y cyfyngiadau o fewn Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
