Cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan: 25 Medi 2008
Rhoddodd Emyr y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am rai o'r bobl roedd wedi eu cyfarfod ers y cyfarfod diwethaf - a oedd yn cynnwys y pedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru a Chomisiynydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol.
Yn ddiweddar roedd Emyr wedi anfon llythyr at bob AC ac AS yn rhoi'r diweddaraf am yr hyn roedd y Confensiwn yn ei wneud.
Trafododd y Pwyllgor y ffaith bod llawer o gyhoeddusrwydd wedi bod yn ddiweddar ynghylch Ymgyrch 'Na' a oedd yn cael ei sefydlu o ran y refferendwm. Cytunodd y Pwyllgor na ddylent roi barn unigol i gefnogi'r naill ochr neu'r lall o'r ymgyrch, ond yn hytrach dylid croesawu pob math o drafodaeth. Nid lle'r Confensiwn yw dadlau dros refferendwm, ac yn sicr nid i fynegi barn arno. Ond nod y Confensiwn yw ysgogi'r drafodaeth.
Diolchodd y Pwyllgor yn ffurfiol i Sally a Meryl am eu gwaith yn fforwm Partneriaeth Sir Gaerfyrddin yn Llanelli 11 Medi. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar y wefan.
Cafodd y Pwyllgor drafodaeth dda am y wefan a sut i wella deunydd a rhyngweithioldeb y safle, a byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn gweithio'n agos gyda thîm y we yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael defnydd o'r wefan.
Rhannodd Aled y drafft diweddaraf o'i bapur "getting things done" a chafodd ei ganmol yn fawr gan y Pwyllgor. Yn dilyn ychydig mwy o waith, cytunwyd y câi'r ddogfen, a fydd yn gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth i bobl o ran beth sydd wedi'i wneud ers datganoli, ei chyhoeddi ar y wefan.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud y mwyaf o'r digwyddiadau a oedd yn cael eu trefnu gan sefydliadau eraill dros y misoedd nesaf a gweithio gyda'r sefydliadau hynny i weld sut y gallai gwaith y Confensiwn fod yn rhan o'u digwyddiadau. Byddai Emyr yn siarad yng Nghynhadledd CLlLC ym mis Hydref a chynhelid digwyddiad fel rhan o Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ym mis Rhagfyr. Câi rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd y Confensiwn yn ei wneud dros y misoedd nesaf ei chyhoeddi ar y wê.
Cytunodd y Pwyllgor ar raglen uchelgeisiol o gyfarfodydd cyhoeddus a sesiwn casglu tystiolaeth ar gyfer 2009 - câi'r amserlen ei chyhoeddi ar y wefan yn fuan iawn. Byddai hyn yn cynnwys 18 o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, a nifer o sesiynau casglu tystiolaeth ffurfiol. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y byddai'n rhaid mynd i gostau i gynnal y digwyddiadau hyn, ond roeddent yn teimlo'n gryf ei bod yn rhan bwysig iawn o'u cylch gwaith i drefnu digwyddiadau ledled y wlad er mwyn cael y cyhoedd yn rhan o'r drafodaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i sefydliadau a rhanddeiliaid eraill helpu o ran y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r cynulleidfaoedd mae'r Confensiwn yn ceisio eu denu. Câi rhagor o fanylion am yr amserlen o ddigwyddiadau eu cyhoeddi ar y wefan yn fuan iawn er mwyn sicrhau bod y cyhoedd wedi cael digon o rybudd o bresenoldeb y Confensiwn yn eu hardal.
Trafododd y Confensiwn pa sefydliadau ac unigolion y dylid eu gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i'r Confensiwn a chytunwyd y dylid rhoi gwahoddiad agored i unrhyw un gyflwyno tystiolaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Byddai'r manylion am sut y câi hyn ei wneud - gan gynnwys canllawiau yn nodi ar ba ffurf y dylid gwneud cyflwyniadau ysgrifenedig, ac awgrymiadau am gwestiynau y byddai'r Confensiwn yn eu gofyn, yn cael eu cwblhau dros yr wythnosau nesaf.
Roedd y Pwyllgor yn falch o gael rhaglen o ddigwyddiadau wedi'i chwblhau ar gyfer y flwyddyn newydd ac yn awyddus i achub ar bob cyfle a ddaw i'w ran yn y cyfamser er mwyn cael pobl Cymru yn rhan o'r drafodaeth bwysig hon.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher 5 Tachwedd.
