Sylwadau y cyhoedd
Dyma rai sylwadau a wnaed gan bobl ledled Cymru am y Confensiwn a’r trafodaethau.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ddyfodol datganoli yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio nifer o wahanol ffyrdd i rannu eich sylwadau. Ewch i’r pennawd ‘Mynnwch gyfrannu’ i gael rhagor o wybodaeth.
12/06/09
"Ar y cyfan dwi’n meddwl fod y Cynulliad wedi creu haen ddiangen a drud iawn o fiwrocratiaeth"
05/06/09
"Roedd yn bwysig i mi fynychu'r cyfarfod cyhoeddus fel y gallwn gael eglurhad ar nifer o faterion."
05/06/09
"Mae'r Cynulliad wedi ei sefydlu ers dros ddeng mlynedd bellach ac rwy'n credu ei bod yn amser i gael refferendwm ac i ni gael pwerau deddfu llawn."
05/06/09
"Amser y byddai'n rheitiach iddyn nhw ddefnyddio yn canolbwyntio ar anghenion Cymru yn hytrach na threulio oriau di-ri yn llenwi ffurflenni ar gyfer San Steffan."
05/06/09
"Rwy'n credu'n gryf fod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau sydd eu hangen eisoes er mwyn darparu ar gyfer pobl Cymru."
05/06/09
"Nid ydwyf yn credu fod y modd y mae'r Cynulliad yn gweithredu ar hyn o bryd yn rhoi gwerth da am arian."
05/06/09
"Tydw i ddim yn credu fod y Cynulliad yn barod i gael pwerau deddfu llawn oll ar unwaith a rhaid cofio fod angen cropian cyn cerdded. Mae angen iddynt brofi eu hunain yn gyntaf."
05/05/09
"Mi fyddai’n well gen i aros gyda’r system bresennol o’i chymryd hi gam wrth gam wrth ddeddfu."
05/05/09
"Rwy’n hoff o’r Cynulliad ac yn arbennig y Pwyllgor Deisebau sy’n ail-gysylltu pobl gyda’r broses o wneud penderfyniadau"
05/05/09
"Byddai gwella ein heconomi a bywydau pobl yng Nghymru trwy gael pwerau deddfu llawn yn ein gwneud ni yn rhan gryfach o'r D.U."
16/04/09
"Dylai’r gwaith o archwilio’r gyfraith yng Nghymru gael ei wneud yma yng Nghymru gan ein Haelodau Cynulliad ni, sy’n gwbl gyfrifol drosom yng Nghymru."
16/04/09
"Rwy’n credu mai sefydliad ifanc ydy’r Cynulliad Cenedlaethol o hyd ac nad yw wedi cael digon o amser i brofi ei hun."
16/04/09
"Mi ydwi o blaid Prydain Fawr, gyda un corff yn ddeddfu – sef Senedd San Steffan."
16/04/09
"Roedd yn galonogol iawn gweld cynifer o bobl yn mynychu cyfarfod y confensiwn yn Ynys Môn."
16/04/09
"O ran y ddadl o ddatganoli, rwy’n awyddus i gadw pethau fel ag y maent ar hyn o bryd."
04/02/09
"Hoffwn weld y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud mwy dros y cymunedau ethnig yng Nghymru, megis hyrwyddo dosbarthiadau ieithoedd ethnig."
04/02/09
"Fi’n gobeithio y medrwn ni fel cenedl gael trafodaeth gall am y materion y mae Confensiwn Cymru Gyfan yn eu codi"
04/02/09
"Rwy’n dibynnu ar fy llais ar gyfer fy mywoliaeth ac rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cael eich clywed"
04/02/09
"Fe bleidleisiais i o blaid datganoli yn y refferendwm yn 1997, ac fe fyddwn ni'n gwneud yr un peth eto"
04/02/09
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n syniad da y bydd Cymru yn cael cyfle i drafod hunan-lywodraeth a datblygu pwerau deddfu."
04/02/09
Ar y cyfan, mae dylanwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn dda, ac mi ydwi o blaid cynnal refferendwm i roi mwy o bŵerau deddfu i'r Cynulliad.
