Skip to content

Alistair yng Ngaherdydd

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Alistair yng Ngaherdydd

Alistair CookCafodd Alistair Cook, sy’n 28 oed, ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu ym Mrynsadler, Rhondda Cynon Taf.  Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes a gwleidyddiaeth, ac mae newydd orffen Doethuriaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ne-ddwyrain Asia.  Mae Alistair hefyd wedi bod yn dysgu Gwyddoniaeth Wleidyddol, gan gynnwys gwleidyddiaeth Ewropeaidd, yn Melbourne ac yn ymwybodol iawn o wleidyddiaeth yma a thramor.

Ac yntau yn gredwr cryf mewn datganoli a rhoi pwerau deddfu llawn i Gymru, mae un maes o fewn gwleidyddiaeth yng Nghymru sy’n peri pryder i Alistair, sef y broses Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaeth (GCD) neu Ddeddf Llywodraeth Cymru, gan ei bod yn annemocrataidd yn ei farn ef:

Un o’r pethau sy’n fy mhoeni fwyaf yw'r broses sydd yn bodoli ar hyn o bryd o wneud Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaeth - GCD neu ddeddf Llywodraeth Cymru - a’r modd y gall cais gan y Cynulliad i greu deddfwriaeth newydd yn y meysydd polisi gael ei atal gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  Nid ydwyf yn gweld hon yn system ddemocrataidd.  Mewn gwirionedd, nid yw’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau am Gymru o anghenraid yn uniongyrchol atebol i bobl Cymru pan mae’n dod i faterion datganoli.  Mae fel petaent yn rhoi gydag un llaw, ac yn cymryd o’r llall.

Tra bod y Cynulliad i weld yn barod ar gyfer y broses GCD, nid felly Llywodraeth y D.U.  Nid yw Llywodraeth y D.U. wedi neilltuo'r amser na’r adnoddau er mwyn i’r broses weithio yn effeithiol, felly unai mae’n rhaid ailstrwythuro’r system fel ei bod yn effeithiol neu mae angen datganoli pellach.

Efallai bod y broses GCD yn gweithio o ran cynnig camau cynyddol i’r Cynulliad gael mwy o bwerau i wneud penderfyniadau mewn rhai meysydd penodol, ond mae’n gwneud pethau yn fwy aneglur i’r etholwyr o ran pwy sydd yn gyfrifol am beth, yn arbennig gan fod Caerdydd a San Steffan yn rhannu pwerau gwneud penderfyniadau mewn rhai meysydd penodol.   Er enghraifft, pwy sydd yn gyfrifol am y polisi tai nawr?  A’i Caerdydd neu San Steffan?  Yr ateb yw, ‘mae’n dibynnu’.  Mae hyn yn rhy amwys i bleidleiswyr ac o ganlyniad, mae pobl yn colli diddordeb.

Un peth arall sydd yn poeni Alistair yw nad yw’r cyfryngau hefyd wedi eu datganoli.  Mae’n credu yn gyffredinol nad yw gwleidyddiaeth ers datganoli wedi cael digon o sylw gan y cyfryngau yng Nghymru:

Nid yw gwleidyddiaeth Gymreig o fewn gwleidyddiaeth y D.U. yn cael digon o sylw.  Os ydych chi yn edrych ar newyddion D.U., prin y clywch chi son am wleidyddiaeth Gymreig.  Os ydym ni eisiau i bleidleiswyr gymryd diddordeb yng ngwleidyddiaeth y Cynulliad, yna mae angen rhoi sylw haeddiannol i’r hyn mae’r Cynulliad yn ei wneud, yn ystod oriau brig.

Ond yn bennaf oll, mae Alistair wedi mwynhau gweld datganoli ar waith and yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd ar ôl i ymgynghoriad Confensiwn Cymru Gyfan gyda’r cyhoedd ddirwyn i ben:

Rwy’n hoff o’r Cynulliad ac yn arbennig y Pwyllgor Deisebau sy’n ail-gysylltu pobl gyda’r broses o wneud penderfyniadau.  Mae’n rhoi cyfle i bleidleiswyr leisio eu barn rhwng etholiadau.  Mae Confensiwn Cymru Gyfan yn rhoi cyfle i bobl Cymru gael dweud eu dweud.  Rwy’n falch o weld fod amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal gan Gonfensiwn Cymru Gyfan ac rwy’n gobeithio fod y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl gael lleisio eu barn ar ddatganoli.

Dolenni perthnasol

Daeth cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar yr 21ain o Awst 2009.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.