Amanda yn Nhrefynwy
Yn ôl Amanda Peters, mi ddylai’r frawddeg 'defnyddia dy lais neu colla dy lais' gael ei defnyddio yn amlach gan bobl. Peth da felly yw ei bod hi wedi dod draw i leisio ei barn yng nghyfarfod cyhoeddus Confensiwn Cymru Gyfan gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nhrefynwy.
Byddai’n deg dweud nad yw Amanda yn gefnogwr cryf o ddatganoli ond ei hoffi neu beidio, mae wedi derbyn y ffaith ei fod yma i aros. Fodd bynnag, mae’n credu’r gryf na ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o bwerau deddfu. Ar y cyfan nid oedd wedi newid ei meddwl ar ddiwedd y cyfarfod ond mi oedd hi yn deall ambell beth yn well – ar ddwy ochr y ddadl.
Ychwanegodd Amanda:
"Rwyf yn reddfol methu ymddiried mewn pobl sydd â phŵer ac yn teimlo’n gryf iawn fod angen iddynt fod yn fwy atebol i’r ‘cyhoedd’...ac mae hynny’n cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori fel yr un wnes i fynychu.
"Wrth gwrs mae yna ambell beth da wedi dod o ddatganoli - mae’n debyg mae presgripsiwn am ddim oedd un o’r rhai mwyaf amlwg o ran sylw yn y wasg - ond ar y cyfan dwi’n meddwl fod y Cynulliad wedi creu haen ddiangen a drud iawn o fiwrocratiaeth."
Mae Amanda yn ddynes brysur iawn gyda chyfrifoldeb mawr yn ei bywyd ac mae’n hynod o ymwybodol o’r dylanwad mae datganoli wedi ei gael ar ei bywyd bob dydd. Dywed:
"Rwyf yn gweithio i’r llywodraeth leol, yn gwirfoddoli gydag elusen ail-gylchu, gyda merch yn y Brifysgol, mab sydd wedi graddio yn ddiweddar ac yn helpu i edrych ar ôl fy nhad sydd yn 93 oed, felly mae nifer helaeth o’r deddfau, polisïau a’r mesurau sydd wedi eu pasio ers i Gymru ddatganoli wedi cael effaith uniongyrchol ar fy mywyd o ddydd i ddydd!
"Rwy’n poeni y bydd mwy o bwerau deddfu yn arwain at ragor eto. Roeddwn hefyd yn anhapus o glywed Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn dweud nad oedd unrhyw un o’r pleidiau gwleidyddol yn gallu, nac yn fodlon, dweud beth fydden nhw yn ei wneud gyda’r pwerau newydd...mae hynny ei hun yn peri pryder i mi."
