Skip to content

Brian yn Nhorfaen

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Brian yn Nhorfaen

Brian MoylanMae Brian Moylan yn arweinydd tîm gyda Gyrwyr Loriau Sbwriel Torfaen.  Mae gwleidyddiaeth y Cynulliad ac Ewrop yn cael effaith ‘fawr iawn’ ar ei waith o ddydd i ddydd, o’r polisi gwastraff i fentrau ailgylchu.

Roedd dod i’r digwyddiad holi ac ateb cyhoeddus yng Nghwmbrân yn brofiad newydd iddo ac roedd yn ei gweld yn ddiddorol fod criw o bobl wedi dod at ei gilydd oedd yn teimlo mor gryf dros wleidyddiaeth yng Nghymru ac i weld y panel yn cael eu herio i ateb cwestiynau yn y sesiwn holi ac ateb agored.

Mae’n credu fod gwaith Confensiwn Cymru Gyfan yn bwysig er mwyn galluogi pobl i gael dweud eu dweud mewn trafodaeth agored ond roedd yn meddwl ei bod hi’n anodd i rywun oedd heb ddarllen llawer am y peth, i allu mynegi eu barn.  Clywodd am y cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmbrân ar Radio Red Dragon a meddyliodd y byddai’n syniad da dod draw i weld beth oedd yn digwydd.

Mae’n credu y dylid rhoi blaenoriaeth i dargedu ysgolion a chael y genhedlaeth iau i gymryd rhan gan fod eu llais hwy hyd yn oed yn bwysicach na’i lais ef wrth drafod dyfodol Cymru.  Er nad yw 100% yn siwr ei fod yn deall pob agwedd yn ymwneud â mwy o bwerau deddfu, mae’n sicr yn deall mwy am yr opsiynau ar gyfer deddfu yng Nghymru ar ôl bod yn y cyfarfod.

Dywedodd Brian:

Yn gyffredinol mi fyddai’n well gen i aros gyda’r system bresennol o’i chymryd hi gam wrth gam wrth ddeddfu.  Rwyf yn dweud hyn o’m profiad fel Arweinydd Tîm, gan fy mod i a fy nhîm yn dysgu mwy wrth fynd yn ein blaenau, yn dysgu o gamgymeriadau, yn addasu ac yna symud ymlaen.  Rwy’n credu fod yr un peth yn wir gyda’r Cynulliad a datganoli yn gyffredinol.  Mae angen amser i addasu i newid ac nid ydwyf yn credu fod Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn barod am hyn ac o’r ymateb a gafwyd gan y mwyafrif yn y cyfarfod yng Nghwmbrân, nid fi yw’r unig un sy’n teimlo felly yn yr ardal yma.

Dolenni perthnasol

Daeth cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar yr 21ain o Awst 2009.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.