Skip to content

Ellie yn Wrecsam

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ellie yn Wrecsam

Ellie PritchardMae Ellie, sy'n byw yn Wrecsam, yn berson o gymeriad tawel ond un peth â'i gwylltiodd yn ddiweddar oedd y modd y gwnaeth San Steffan ddelio gyda Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Tai Cymru. 

Yn ei barn hi, un peth yw dweud mai Cymru sydd á'r p?er i wneud penderfyniadau mewn rhai meysydd polisi, ond pan fo San Steffan yn addasu beth sy'n cael ei gynnig i'r fath raddau, mae'n gwneud y system yn destun sbort.   

Mae Ellie o'r farn os nad yw'r Cynulliad yn cael awdurdod llawn i wneud eu deddfwriaethau eu hunain yng Nghaerdydd, yna mae'r system bresennol mewn amryw o ffyrdd yn gwastraffu amser ac ymdrechion yn llwyr.  Mae'n credu fod gan Gymru a'r Cynulliad Cenedlaethol y gallu, a'u bod ddigon abl, i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac y dylai fod gan bobl yr hyder i fynd amdani a dewis cael pwerau deddfu llawn oll ar unwaith yn y meysydd polisi sydd wedi eu datganoli.

Yn ôl Ellie:

Rwyf wedi colli cysylltiad gyda materion Cymreig braidd ac felly mi ydw i angen dysgu mwy am Gonfensiwn Cymru Gyfan a'r drafodaeth ar ddatganoli.  Roedd yn bwysig i mi fynychu'r cyfarfod cyhoeddus fel y gallwn gael eglurhad ar nifer o faterion.

Roeddwn yn falch fy mod wedi cael dweud fy marn ac mae gennyf syniad llawer gwell erbyn hyn o'r materion sy'n cael eu trafod.  Nid ydwyf eisiau i ni fod mewn sefyllfa debyg eto, fel y digwyddodd wedi refferendwm 1997, pan fo difaterwch neu gamddealltwriaeth pleidleiswyr yn arwain at benderfyniad mae amryw yn anhapus gydag ef.

Mae'n bwysig ein bod yn holi pobl Cymru am eu barn a dyna sydd yn dda am y broses hon.  Mi ydw i yn un o'r bobl hynny sy'n anodd fy nghyrraedd, nid ydwyf yn darllen y papurau lleol nac yn gallu derbyn teledu Cymraeg ble rydw i'n byw felly mae'n anodd gwybod beth sydd yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd.  Ond roeddwn yn digwydd bod yn y gampfa pan glywais hysbyseb ar y radio a meddwl y dylwn ddod draw i glywed beth oedd yn cael ei ddweud.  Rwy'n falch i mi wneud, gan fy mod i yn deall llawer mwy bellach, sydd yn beth da.  Rwyf hefyd yn falch i mi gael dweud fy nweud a bod pobl wedi gwrando arnaf!

 

Dolenni perthnasol

Daeth cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar yr 21ain o Awst 2009.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.