Skip to content

Hitesh yng Nghaerffili

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Hitesh yng Nghaerffili

Hitesh a Roopa Hitesh Vyas, gweithio i canolfan alw Nwy Prydain, o Gaerffili

Mae Mr Vyas yn dipyn o ieithydd. Mae'n gallu siarad pump iaith gan gynnwys ei famiaith sef Gujarati.  Mae e'n falch iawn o'i blant sydd wedi rhagori mewn dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Daeth Mr Vyas, sydd o dras Affricanaidd-Asiaidd, i Gymru yn 1972 wedi iddo gael e hel o Uganda o dan unbennaeth milwrol Idi Amin.  Mae'n cyfri ei hun fel Cymro, ond mae e hefyd yn falch o'i gefndir. Gall e weld y manteision o fod yn amlieithog ond mae yn teimlo bod cenhedlaeth iau heddiw yn colli diddordeb mewn ieithoedd, yn enwedig Cymraeg.

Rwy'n meddwl bod ieithoedd yn bwysig i'r gymuned. Ond wedi dweud hyn, mae Saesneg heddiw yn cymryd drosodd ac mae'n anodd i gadw ieithoedd eraill yn fyw ymysg y genhedlaeth iau. Er bod fy mhlant yn siarad Gujarati, mae nhw'n gweld hi'n anodd i ysgrifennu yn yr iaith a mae llawer o hyn i wneud a'r wê a diffyg allweddellau cyfrifadurol mewn ieithoedd ethnig.

Roedd gwersi Cymraeg amser cinio yn Nwy Prydain yn boblogaidd ar un adeg. Heddiw, does neb yn eu mynychu. Rwy'n teimlo bod y genhedlaeth iau yn anffodus wedi colli diddordeb.

Hoffwn weld y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud mwy dros y cymunedau ethnig yng Nghymru, megis hyrwyddo dosbarthiadau ieithoedd ethnig. Unwaith bod person yn datblygu clust dda am ieithoedd, mae nhw'n gweld hi'n haws i ddysgu ieithoedd eraill, gan gynnwys Cymraeg. Fe fydd hyn, yn ei dro, yn helpu'r Cynulliad yn ei fwriad i greu Cymru ddwy-ieithog.

Mae merch Hitesh Vyas, Roopa, 12 oed, yn cadarnhau ei sylwadau:

Rwy'n mynd i Ysgol Gyfun St Martin yng Nghaerffili ac fy hoff bynciau i yw'r Cymraeg a Sbaeneg. Mae medru siarad Gujarati a Saesneg wedi helpu fi werthfawrogi ieithoedd yn gyffredinol.

Ategodd Mr Vyas:

Rwy'n perthyn i sefydliad ethnig o'r enw Canolfan Gymunedol Sanatan Dharma Mandal a Hindu, Caerdydd sy'n cynnal derbyniad Diwali (Gŵyl y Golau) yn flynyddol yn y Cynulliad. Mae'n grêt ond fe fyddai'n braf petai Aelodau'r Cynulliad yn dangos eu gwynebau o bryd i'w gilydd.

Rwy'n meddwl bod Confensiwn Cymru Gyfan yn syniad da. Er fy mod i yn hapus i'r CynulIiad i gynyddu ei bwerau yn raddol mewn ardaloedd datganoli, rwy'n credu y dylai pawb gymryd y cyfle i fynegi ei barn. Rwyf wedi pleidleisio ar hyd fy mywyd - ac mae dod o Uganda - yn golygu fy mod yn gwir werthfawrogi y drefn ddemocrataidd.

Dolenni perthnasol

Daeth cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar yr 21ain o Awst 2009.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.