Josephine ym Miwmares
Symudodd Josephine Kneale i Fiwmares 16 mlynedd yn ôl pan gafodd swydd ei gŵr ei adleoli i’r ardal.
Cychwynnodd wirfoddoli gyda Cancer Research, a gyda grwp lleol o’r enw Cameo - grwp helpu’i gilydd yn ymwneud â chanser lymffatig.
Mynychodd Josephine gyfarfod Confensiwn Cymru Gyfan yn Llandudno er mwyn dod i wybod mwy am eu nodau a’u hamcanion ac i leisio ei barn am ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd Josephine:
Rwy’n credu mai sefydliad ifanc ydy’r Cynulliad Cenedlaethol o hyd ac nad yw wedi cael digon o amser i brofi ei hun. Mae llawer o feirniadu yng ngogledd Cymru fod y Cynulliad yn canolbwyntio ormod ar Gaerdydd. Ei fod yn wastraff arian, ac nad yw pobl yn teimlo yn rhan ohono. Ei fod yn rhy bell o weddill Cymru, ym mhob ystyr.
Nid yw gwelliannau i ysbytai yn y de yn effeithio, nac o gymorth, i bobl yng ngogledd Cymru. Mae eu plant yn dal i orfod teithio i Ysbyty Alderhay yn Lerpwl. Mae cleifion sydd gyda phroblemau difrifol â’r galon a’r bobl hynny sydd gyda chanser prin neu gymhleth hefyd yn gorfod teithio i Lerpwl, Manceinion, Caer neu Gilgwri (Wirral). Does 'na chwaith ddim ysbyty orthopedig arbenigol yn yr ardal: ar gyfer problemau dyrys mae’n rhaid teithio i Gobowen yn Swydd Amwythig. Mae cynnig presgripsiwn am ddim i weld yn bolisi eithaf anghyfrifol pan allai’r adnoddau prin gael eu defnyddio lawer gwell mewn meysydd eraill.
Rwy’n credu fod taith Confensiwn Cymru Gyfan yn syniad diddorol ac yn un gwerth chweil os bydd yn gallu addysgu a rhoi pobl ar ben ffordd ynglyn â gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob rhan o Gymru. Mae angen i frwdfrydedd ddisodli difaterwch os ydym am gael agenda boliticaidd gytbwys.
