Mike yn Llandudno
Mae Mike Pritchard yn Ysgrifennydd Anrhydeddus i Save Our Scenery, grŵp ymgyrch sy’n erbyn ffermydd gwynt ar y môr oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Mae nhw’n ymgyrchu yn erbyn fferm Gwynt y Môr sy’n cynnwys 250 o dyrbeini gwynt fydd yn cael eu hadeiladu oddi ar yr arfordir, ar draws Bae Llandudno. Bwriad Save our Scenery yw i warchod treftadaeth arfordir Cymru a’r diwydiant twristiaeth sy’n gysylltiedig.
Gyda penderfyniadau cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt a chynlluniau argae yn cael eu gwneud yn San Steffan, hoffai Mike weld Cymru yn cael mwy o bwerau cynllunio er mwyn gwneud penderfyniadau ar hyn.
Dywedodd Mike:
Does gan llywodraeth leol Cymru na Llywodraeth Cynulliad Cymru ddim reolaeth dros y ffermydd gwynt yma. Mae’r holl beth yn nwylo San Steffan. Rydyn ni eisiau gweld adolygiad o Deddf Trydan 1989 i ddod a mwy o ddemocratiaeth leol mewn i benderfyniadau cynllunio.
Dylai deddfwriaeth cynllunio adlewyrchu gweithgareddau datblygiadau ynni ar y môr yn yr un ffordd a mae gan y cynghorau lleol a’r Cynulliad awdurdod dros ffermydd gwynt ar y lan. Beth hoffen ni weld yw ymchwiliad cyhoeddus ond nid yw hyn yn bosib oherwydd bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn San Steffan ac nid yng Nghymru.
Mae Mike yn credu mewn pwerau pellach i’r Cynulliad ond mae e’n meddwl bod y Cynulliad yn canolbwyntio gormod ar de Cymru ac yn anghofio am y gogledd.
Dwi wedi bod yn ran o’r Cynulliad a’r Pwyllgor Deisebau ond dwi’n gweld y Cynulliad yn bell i’w gyrraedd. Yn sicr mae Cymru wedi ei rannu yn de a gogledd ac mae rhaid datrys y broblem hon cyn i’r Cynulliad gael mwy o bwerau. Mae’n llawer haws i ni yn y gogledd gyrraedd Llundain nac yw hi i fynd i Gaerdydd.
Dwi’n gwybod bod swyddfeydd newydd y Cynulliad yn cael eu hadeiladu yng Nghyffordd Llandudno. Rwy’n gobeithio y bydd hanner y swyddfeydd yma yn llawn pobl y Cynulliad o Gaerdydd a bydd yn golygu fod Gweinidogion o fewn cyrraedd i bawb.
Hoffwn i weld mwy o bwerau i’r Cynulliad. Hoffwn weld mwy o ddatganoli. Dwi eisiau gweld pwer yn cael ei ddatganoli o Gaerdydd i ogledd Cymru. Dyna’r cam nesaf – rhanbartholdeb.
