Romy yn Nhrefnant
Gadawodd Romy Salvador Ynysoedd y Philipinos ym 1973 ac mae bellach yn byw yn Nhrefnant, Sir Ddinbych. Ar ôl treulio amser yn byw yn Lloegr a'r Alban, ymgartrefodd yng Nghymru a magodd ef a'i wraig eu plant yno.
Ac yntau yn ddyn hynod o gymunedol, mae Romy yn weithgar iawn yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae'n ymroi o'i amser i wasanaethu ei gymuned Gymreig yn ogystal â gwneud ei orau dros Ffilipiniaid yng ngogledd Cymru. Ef yw cadeirydd Cymdeithas Ffilipiniaid Gogledd Cymru, mae ar fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru ac yn aelod o bwyllgor pentref Trefnant.
Y prif reswm pam fod Romy wedi mynychu'r Ddawns Amser Te yn Ninbych oedd am ei fod yn poeni am ddiffyg teimlad cymunedol a theuluol. Mae'n credu y dylai pobl wneud llawer mwy i feithrin cymunedau ffyniannus er mwyn cynnig awyrgylch ddiogel ac iach i weithio a byw ynddi, ac i fagu teulu. Mae'n gweld fod y Cynulliad o fudd ac mae'n manteisio ar bob cyfle i drafod gyda chynghorwyr, aelodau seneddol ac aelodau'r Cynulliad.
Dywed:
Rwy'n credu mai'r ffordd orau i gyfathrebu gyda phobl, a'u deall, yw trwy siarad a gwrando ar hyn sydd yn mynd ymlaen o'n cwmpas. Mi wnes i wir fwynhau cyfarfod Confensiwn Cymru Gyfan yn Ninbych. Roedd nifer o bobl yno a chafodd llawer o syniadau da eu lleisio. Rwy'n meddwl fod y Confensiwn yn syniad gwych - mae'n ffordd dda o gyfathrebu gyda phobl Cymru ac ers y cyfarfod rwyf wedi rhoi gwybod i bobl yn y gymuned am y Confensiwn ar hyn sydd yn digwydd.
Mae'r Cynulliad wedi ei sefydlu ers dros ddeng mlynedd bellach ac rwy'n credu ei bod yn amser i gael refferendwm ac i ni gael pwerau deddfu llawn. Mae gan yr Alban lawer mwy o bwerau deddfu na beth sydd gan Gymru.
Gan gymharu'r sefyllfa wleidyddol ag un deuluol, dywedodd Romy:
Mae'n rhaid i blant adael y nyth ar ryw bwynt pan fyddant ddigon hen. Mae'r Cynulliad ddigon hen bellach a dyma'r amser i ni gael mwy o annibyniaeth a gwahanu oddi wrth San Steffan. Gallwn bob amser gael arweiniad gan San Steffan, fel y byddai mam a thad yn arwain plentyn, ond mae'n amser i ni fod yn rhydd a chael gwneud yr hyn ydym ni eisiau ei wneud.
Rwy'n credu, gyda mwy o bwerau, y bydd Cymru yn datblygu yn wlad well. Rydym angen pwerau deddfu llawn er mwyn gwella. Os byddwn yn gwneud camgymeriadau, yna fe allwn ddysgu ohonynt. Wedi'r cyfan, does neb yn berffaith.
