Mynnwch wybod
Mae'r ddadl ar bwerau'r Cynulliad yn berthnasol i bawb, gan fod gan y defnydd o bwerau'r Cynulliad y potensial i effeithio ar fywydau pawb mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, addysg, yr amgylchedd, yr economi, materion gwledig, diwylliant a chwaraeon - ymysg nifer o feysydd eraill.
Rydym am i gymaint o bobl yng Nghymru â phosibl ddeall nod y Confensiwn a chymryd rhan ynddo, fel y gallwch gymryd rhan yn y ddadl fawr ar lywodraeth ddatganoledig a deddfu yng Nghymru.
Yma cewch wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael o ran datganoli, i'ch gwneud yn ymwybodol o'r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac o beth fyddai goblygiadau symud i bwerau deddfu i'r Cynulliad.
Mae yna nifer o ffyrdd ar gael i chi gysylltu â ni i roi eich barn - ewch i adran "dweud eich dweud" i ddarganfod mwy
