Tystiolaeth
Mae Confensiwn Cymru Gyfan yn casglu barn pobl Cymru am bwerau cyfredol y Cynulliad, a beth y gallai pwerau deddfu pellach ei olygu.
Rydym yn casglu tystiolaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r canlynol:
- Tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol yn seiliedig ar gwestiynau'r ymgynghoriad;
- E-bost;
- Ein ffurflenni ar-lein;
- Tystiolaeth lafar a gasglwyd drwy sesiynau ffurfiol a'n digwyddiadau cyhoeddus.
Yn yr adran hon fe welwch dystiolaeth ysgrifenedig a gawsom a thrawsgrifiadau o'r sesiynau casglu tystiolaeth lafar ffurfiol.
Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyflwyno tystiolaeth. Ar y 21/08/09 rydym ni wedi derbyn 592 o gyfraniadau.
Nodwch y bydd y Confensiwn yn cyhoeddi'r holl dystiolaeth a dderbyniwyd ar ffurf copi caled, e-bost a ffurflenni ar-lein ar yr amod nad yw'n ddifrïol, sarhaus neu y tu allan i Gylch Gorchwyl y Confensiwn. Bydd y Confensiwn hefyd yn cyhoeddi trawsgrifiadau gair am air o'r sesiynau casglu tystiolaeth lafar fydd i'w cynnal. Caiff y dystiolaeth ond ei chyhoeddi yn yr iaith y'i cafwyd neu y'i rhoddwyd.
