Adroddiad Ymchwil Cymdeithasol - Canfyddiadau o gamau cychwynnol
Prif amcan yr ymchwil yw i helpu gyda gwaith cyfathrebu Confensiwn Cymru Gyfan yn ogystal a rhoi gwybodaeth ar argymhellion y Confensiwn.
Cynhelir yr ymchwil mewn dwy ran. Mae'r adroddiad yma yn cynnwys canfyddiadau o ran gyntaf yr ymchwil yn unig. Mae ail ran yr ymchwil eisoes wedi cychwyn ac adroddir ar y canlyniadau terfynol yn hydref 2009.
Mae’r rhan yma’n rhoi gwybodaeth ystadegol a dyfnach am ymwybyddiaeth pobl o, ac agwedd tuag at bwerau’r Cynulliad. Mae’r adroddiad hefyd yn trafod ffyrdd yr hoffai pobl dderbyn gwybodaeth am rôl y Cynulliad a’r pwerau sydd ganddo nawr, a beth allai gael yn y dyfodol.
Mae canlyniadau ymchwil cychwynnol yn datgelu bod 73% o bobl Cymru o blaid rhyw fath o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Wrth edrych i’r dyfodol ac at refferendwm posibl dywedodd:
- 48% y byddent yn cefnogi rhoi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol
- 35% y byddent yn pleidleisio yn erbyn
- 13% nad oeddent wedi penderfynu
- 2% na fyddent yn pleidleisio o gwbl.
I ddarllen yr adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r camau cychwynnol, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Beth ydych chi’n feddwl o ganfyddiadau’r ymchwil? Rhannwch eich barn gyda ni drwy ddefnyddio’n fforwm rhyngweithiol neu drwy ein ffurflenni Dweud eich Dweud. Gallwch fynd yno drwy ddefnyddio’r dolenni ar ochr dde’r dudalen, o dan ‘Dolenni Perthnasol’.
