Ugain Maes Polisi
Gall y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys 60 o Aelodau etholedig y Cynulliad, lunio peth deddfwriaeth yn yr un modd ag y gall y Senedd yn Llundain.
Fodd bynnag, tra bod deddfwriaeth y Senedd yn gallu bod yn gymwys ledled y DU ac yn bellgyrhaeddol, mae pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfyngedig: maent yn benodol i Gymru, a chaiff y Cynulliad y pwerau yn raddol, gam wrth gam drwy broses o gytuno â Senedd y DU.
Mae rhai meysydd lle na all y Cynulliad ofyn am bwerau deddfu - dim ond yn yr 20 o feysydd polisi wedi’u diffinio a’u nodi yn Neddf 2006 y gall ofyn am bwerau.
Rhag ofn eich bod yn pendroni... y 20 o feysydd polisi yw:
- Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
- Henebion ac adeiladau hanesyddol
- Diwylliant
- Datblygu economaidd
- Addysg a hyfforddiant
- Yr amgylchedd
- Y gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
- Bwyd
- Iechyd a gwasanaethau iechyd
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Tai
- Llywodraeth leol
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Gweinyddiaeth Gyhoeddus
- Lles Cymdeithasol
- Chwaraeon a hamdden
- Twristiaeth
- Cynllunio gwlad a thref
- Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
- Yr iaith Gymraeg
