Cyflawni Pethau yng Nghymru
Mae papur sy'n gosod cyd-destun i'r drafodaeth ynghylch pwerau deddfu'r Cynulliad wedi'i ysgrifennu gan aelodau Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan.
Mae “Cyflawni Pethau yng Nghymru” yn egluro sut y mae'r wlad wedi cael ei llywodraethu yn y gorffennol a'r presennol, a'n hopsiynau ar gyfer llywodraethu yn y dyfodol. Mae Aled Edwards a'i gydawduron yn gobeithio y bydd y papur hwn yn gwella'r drafodaeth ynghylch pwerau deddfu'r Cynulliad.
Ar ôl i chi ddarllen y papur hwn, beth am ychwanegu eich barn at y drafodaeth ar ein tudalen Dweud Eich Dweud? Gallwch hefyd gyflwyno eich barn drwy ein proses ymgynghori ffurfiol. Gweler 'Galwad am dystiolaeth' am fanylion.
