Sut y caiff deddfwriaeth ei chreu i Gymru?
Yng nghyfarfod Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan ar 5ed Tachwedd 2008, cawsom gyflwyniad gan Brif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, yr Athro Thomas Watkin, ar y modd y caiff deddfwriaeth ei chreu i Gymru ar hyn o bryd, a’r opsiynau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer rhoi pwerau deddfu i’r Cynulliad.
Dilynwyd hyn gan drafodaeth, rhwng aelodau’r Pwyllgor a’r Athro Thomas Watkin, Hugh Rawlings (Cyfarwyddwr Materion Sefydliadol, Cydraddoldeb a Chyfathrebu Llywodraeth Cynulliad Cymru) a Jeff Godfrey (Cyfarwyddwr yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cynulliad Cymru).
Os hoffech ddarganfod mwy am y modd y caiff deddfwriaeth ei chreu i Gymru, ac am yr opsiynau ar gyfer y dyfodol, lawrlwytho y dogfen 'Word' i ddarllen nodyn o’r hyn a drafodwyd.
