Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol a Chrynodeb Gweithredol
Prif nod yr ymchwil oedd rhoi tystiolaeth am farn pobl ar bwerau deddfu'r Cynulliad i lywio argymhellion Confensiwn Cymru Gyfan, ac felly i helpu i lywio gwaith cyfathrebu'r Confensiwn.
Cynhaliwyd yr ymchwil dros ddau gam, rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Gorffennaf 2009, gan ddefnyddio grwpiau trafod i ystryied materion yn fanwl, ac arolygon ffôn i roi gwybodaeth ystadegol.
Mae'r adroddiad terfynol, sy'n dod â chanfyddiadau dau gam yr ymchwil ynghyd, bellach ar gael. Mae'n rhoi gwybodaeth ystadegol a manwl am ymwybyddiaeth y cyhoedd am bwerau deddfu presennol y Cynulliad, barn y cyhoedd ar y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu ar hyn o bryd, a'u barn ar gynigion i gael pwerau deddfu ychwanegol yn y dyfodol.
Datgelodd canlyniadau ail gam ein hymchwil y canlynol:
- Nododd 72% o bobl yn ein harolwg fod yn well ganddynt y setliad presennol neu rywfaint yn rhagor o ddatganoli.
- Pan ofynnwyd sut y byddent yn pleidleisio mewn refferendwm ar ragor o bwerau, byddai 47% yn pleidleisio dros symud i Ran 4, gyda 37% yn pleidleisio yn erbyn.
I ddarllen yr adroddiad llawn lawrlwythwch y ddogfen isod.
