Yr Adroddiad a Chrynodeb Gweithredol
Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r materion a godwyd gyda ni yn ystod ein hymgynghoriad helaeth â phobl Cymru. Gwnaethom gynnal digwyddiadau cyhoeddus a sesiynau casglu tystiolaeth ledled Cymru, gan wahodd pobl i gymryd rhan yn y broses drwy ein gwefan, a chafwyd bron i 3,000 o safbwyntiau gan sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd. Rydym wedi craffu ar yr holl dystiolaeth yn drylwyr ac yn ddiduedd, ac mae hyn wedi ffurfio sail ar gyfer ein hadroddiad, a'r argymhellion a chasgliadau ynddo. Rydym felly yn eu hargymell i Lywodraeth Cynulliad Cymru a chredwn eu bod yn deilwng o ystyriaeth ddwys gan bawb sydd ynghlwm wrth y gwaith o lywodraethu Cymru.
Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at y ddadl.
I ddarllen yr adroddiad neu grynodeb gweithredol cliciwch i lawrlwytho'r ddogfen isod
