Digwyddiadau Cyhoeddus
Gwaith y Confensiwn yw i drafod a hysbysu, felly does dim ots os nad ydych chi’n deall llawer am ddatganoli. Fe fydd pob digwyddiad yn eich cyflwyno i’r materion dan sylw ac yn rhoi cyfle i chi leisio’ch barn.
Dyma eich cyfle chi i leisio’ch barn ar ddyfodol Cymru. Dewch draw i drafod a chlywed mwy!
Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond fe fyddwn yn gwerthfawrogi pe byddai modd i chi gofrestru o flaen llaw (ar wahân i’r sioeau teithiol lle y gallwch alw heibio i’n gweld unrhyw dro).
Er mwyn mynychu un o’r digwyddiadau am ddim, ewch i'n tudalen gofrestru (cyswllt allanol) neu ffoniwch y tîm digwyddiadau ar 029 2069 4997.
Hawl i Holi
Cyfle i holi panel o gynrychiolwyr sydd ynghlwm â Chonfensiwn Cymru Gyfan ac i glywed eu safbwyntiau nhw ar y ddadl.
Grwpiau Trafod
Sesiwn drafod dwy awr o hyd yng nghwmni cynrychiolydd o Gonfensiwn Cymru Gyfan a fydd yn egluro gwaith yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn casglu barn y rhai sy'n bresennol. Bydd cyfle i chi siarad yn gyhoeddus o flaen y meicroffon neu, os yr hoffech chi, roi eich barn ar bapur.
Sioeau Teithiol
Fe fydd cerbyd y Sioe Deithiol yn ymweld â mannau siopa poblogaidd yn ystod y dydd. Bydd cynrychiolwyr o Gonfensiwn Cymru Gyfan wrth law i glywed eich barn ac i drafod unrhyw fater gyda chi.
Grwpiau plant a rhieni
Dyma gyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda chynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith y Confensiwn. er mwyn lleisio’ch barn ar y drafodaeth. Bydd cyfle i chi siarad yn agored am eich profiadau chi o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i gyfrannu eich barn tuag at y drafodaeth ar bwerau deddfu pellach.
Dawnsfeydd a Grwp Trafod
Dyma gyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda chynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith y Confensiwn er mwyn lleisio’ch barn ar y drafodaeth.
