Newyddion
Y newyddion diweddaraf gan Gonfensiwn Cymru Gyfan.
Adroddiad allweddol ar ddatganoli yng Nghymru yn adlewyrchu teimladau'r cyhoedd ynglŷn â refferendwm
18/11/09
Mae Confensiwn Cymru Gyfan, o dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry, heddiw, dydd Mercher 18fed Tachwedd 2009, wedi cyflwyno ei adroddiad ar drefn lywodraethu Cymru yn y dyfodol yn ffurfiol i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn adeilad y Senedd ym
...
19/10/09
Mae Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan wedi cyhoeddi y bydd adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan ar bwerau deddfu y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gyflwyno i’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan a’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones yn y Senedd, Bae Caerdydd ar fore Mercher
...
15/10/09
Mae ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi dod yn ail mewn cystadleuaeth Confensiwn Cymru Gyfan, y corff sy’n gyfrifol am weld beth yw barn pobl Cymru am fwy o bwerau deddfu o San Steffan.
29/09/09
Mis wedi diwedd yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae aelodau Confensiwn Cymru Gyfan wrthi’n llunio drafft cyntaf yr adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd.
15/09/09
Mae ysgol uwchradd yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd y brig mewn cystadleuaeth i ysgolion a drefnwyd gan Gonfensiwn Cymru Gyfan, y corff sy’n gyfrifol am fesur barn pobl Cymru ynglŷn â chaniatáu mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
21/08/09
Os yw diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, yna mae wyth mis o ymgynghoriad cyhoeddus dwys yn teimlo fel oes mewn cymhariaeth. Dydd Gwener, Awst 21ain oedd diwrnod olaf ymgynghoriad cyhoeddus Confensiwn Cymru Gyfan ar roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
17/08/09
Dim ond wythnos ar ôl i leisio barn ar y drafodaeth ar ddatganoli.
29/07/09
Yn dilyn 23 o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru, gyda bron i 2,000 o bobl wedi mynychu, bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn rhoi’r cyfle olaf i’r cyhoedd leisio eu barn yn swyddogol yn eu trafodaeth p’un ag y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o bwerau deddfu ym Mhabell Llywodraeth Cynulliad Cy
...
13/07/09
Wrth i Gonfensiwn Cymru Gyfan nodi blwyddyn ers cynnal cyfarfod cyntaf ei Bwyllgor Gweithredol, mae hefyd wedi cychwyn paratoi at ddiwedd y drafodaeth ar ddatganoli.
04/06/09
Gallen nhw ddim fod yn fwy gwahanol. Casnewydd a Chaerdydd. Dwy ddinas yn ne ddwyrain Cymru, ond ar ddau begwn – yn gymdeithasol, daearyddol a gwleidyddol.
02/06/09
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn dod i Landrindod dydd Llun 15 Mehefin i gynnal sesiwn casglu gwybodaeth ffurfiol yn Swyddfeydd Cyngor Powys.
01/06/09
Bu Sir Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cwrdd â chynrychiolwyr o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ething (DLlE) Caerdydd yr wythnos diwethaf mewn sesiwn arbennig sy’n cael ei chynnal yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
29/05/09
Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos hon (Mai 25 – 30) fe annogodd Confensiwn Cymru Gyfan i ieuenctid Cymru leisio eu barn fel rhan o’u proses ymgynghori parhaol gyda’r cyhoedd ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael er mwyn cynnig mwy o bwreau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
29/05/09
Mae digwyddiadau'r Confensiwn yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf mewn dwy ran gyferbyniol o Gymru - ardaloedd a bleidleisiodd yn wahanol yn y refferendwm ar ddatganoli ddegawd yn ôl.
14/05/09
Mae digwyl trafodaeth fywiog yn nigwyddiad Hawl i Holi Confensiwn Cymru Gyfan yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy ar nos Iau, 14eg o Fai o 6.30 yr hwyr ymlaen pan fydd Adam Price o Blaid Cymru yn ymuno â’r Ceidwadwr David Davies ar y panel i wynebu cwestiynnau gan y gynulleidfa.
07/05/09
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal diwrnod teuluol a sioe deithiol ym Merthyr ar ddydd Mercher 13eg o Fai.
30/04/09
Mae digwyddiadau'r Confensiwn yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf mewn dwy ran gyferbyniol o Gymru - ardaloedd a bleidleisiodd yn wahanol yn y refferendwm ar ddatganoli ddegawd yn ôl.
17/04/09
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal digwyddiad Hawl i Holi yn Ysgol Gynradd Bryn Coch yn Yr Wyddgrug o 6.30 i 8.30 yr hwyr ar nos Fercher 22ain o Ebrill.
17/04/09
Y llawr dawnsio oedd y lleoliad i’r gantores a’r actores Bernie Nolan ac un o aelodau Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan Alex Aldridge i lansio dawns te arbennig yn Neuadd y Dref Dinbych o 2 i 4 y prynhawn ar ddydd Mawrth 21 Ebrill.
16/04/09
Bydd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn cyflwyno adroddiad hanner ffordd ynglyn â'r drafodaeth ar fwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad yn ystod cynhadledd gan Sefydliad Materion Cymreig gynhelir dydd Llun nesaf, 20 Ebrill, i ddathlu'r degawd cyntaf ers datganoli.
15/04/09
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal sesiwn Grŵp Trafod ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam o 6.30 i 8.30 yr hwyr ar nos Iau 23ain o Ebrill.
07/04/09
Mae grwp Confensiwn Cymru Gyfan ar Weplyfr (Facebook), y wefan gymdeithasol, wedi croesawu eu 500fed aelod.
01/04/09
Fe fydd Confensiwn Cymru Gyfan yn mynd i Ganolfan Ddinesig Casnewydd ar ddydd Iau 2il o Ebrill er mwyn casglu tystiolaeth fel rhan o’r ymgynghoriad gyhoeddus ar y drafodaeth ar fwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
24/03/09
Mae gan y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens a chadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry, lawer yn gyffredin.
24/03/09
“Ysgrifennwch eich dyfodol”, medd awdures lleol Rachel Trezise wrth i’r Confensiwn ddod i Bontypridd.
24/03/09
Ymchwil yn datgelu bod y mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn datganoli yng Nghymru wrth i'r Confensiwn nodi'r angen i lenwi'r bwlch mewn gwybodaeth.
17/03/09
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal sesiwn Hawl i Holi yng Nghlwb Monty, Y Drenewydd rhwng 6.30pm-8.30pm ar nos Fawrth, Mawrth 24ain.
16/03/09
Doedd pobl gogledd Cymru ddim yn swil yn rhoi eu barn ar y drafodaeth ar ddatganoli.
10/03/09
Mae rheolwr clwb pêl-droed Dinas Abertawe, Roberto Martinez, wedi lansio fforwm newydd Confensiwn Cymru Gyfan.
10/02/09
Mae’r drafodaeth ar ddatganoli, sy’n cael ei gynnal gan Confensiwn Cymru Gyfan, ar fin cyrraedd gogledd Cymru. Fe fydd y gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn gofyn am adborth ar bwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol.
29/01/09
Mae Confensiwn Gymru Gyfan yn anelu at casglu tystiolaeth am y dadl dros datganoli trwy nifer o ddull.
28/01/09
Fe fydd trigolion Llanelli yn cael y cyfle i ddarganfod mwy am y ddadl datganoli mewn cyfarfod yng Nghymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghanolfan Selwyn Samuel am 7.30 yr hwyr ar ddydd Iau 19eg o Chwefror.
28/01/09
Y ddadl datganoli fydd y pwnc dan sylw ym Mhrifysgol Abertawe ar ddydd Gwener 20fed o Chwefror. Fe fydd y drafodaeth yn cael ei chynnal ym Mhrif Adeilad y Prifysgol o 12-2 y prynhawn. Y siaradwr gwadd yw Syr Emyr Jones Parry, cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan.
28/01/09
Y ddadl datganoli fydd y pwnc dan sylw mewn cyfarfod arbennig cynghorwyr yn Siambrau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ddydd Iau 19 Chwefror rhwng 11.30 y bore a 1 y prynhawn. Y siaradwr gwadd yw Syr Emyr Jones Parry, cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, y sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad c
...
28/01/09
Bydd sioe deithiol Confensiwn Cymru Gyfan yn ymweld â Chanolfan Siopa Cwrt-y-Castell yng Nghaerffili rhwng 9am-5pm ar Ddydd Iau, Chwefror 5ed
14/01/09
Mae’r gantores opera enwog Rebecca Evans wedi datgan ei chefnogaeth i waith Confensiwn Cymru Gyfan, y corff sy’n gyfrifol am asesu’r safbwyntiau o blaid ac yn erbyn datganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
13/01/09
Sut byddwch chi'n rhagweld y bydd eich Cynulliad yn gweithredu'n y dyfodol? Byddwch yn rhan o bethau, nawr yw'r amser.
13/01/09
Chwilio am fargeinion yn y siopau? Peidiwch â cholli cynnig unigryw Confensiwn Cymru Gyfan.
05/12/08
Bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn teithio y flwyddyn nesaf i gasglu tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i gael gwybod a ydych chi'n meddwl y dylai Cymru gael mwy o bwerau deddfu. Rydym yn awyddus i glywed gan bawb sydd am wneud cyflwyniad ffurfiol i'r Pwyllgor Gweithredol.
05/12/08
Mae Confensiwn Cymru Gyfan yn gwahodd pobl ifanc Cymru i ddysgu mwy am y ddadl ar roi pwerau deddfu pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
17/11/08
Trefnodd Shan Ashton, aelod o Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan, sesiwn yng Nghaernarfon i grŵp o bobl o amrywiaeth o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i drafod nifer o faterion sy'n ymwneud â datganoli yng Nghymru.
06/11/08
Bydd Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry, yn mynd ar ymweliad emosiynol yn ôl i'w hen ysgol gynradd yn Ne Cymru ddydd Gwener yma i ddweud diolch arbennig i'r disgyblion yno.
30/10/08
Mae Confensiwn Cymru Gyfan am ehangu'r drafodaeth a chael barn gan bobl o bob rhan o Gymru. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan ganolog o waith y Confensiwn ac rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
21/10/08
Mae Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gomisyno arolwg i ymchwilio i farn y cyhoedd am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u gwybodaeth amdano.
17/10/08
Mae pobl Cymru yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am y ddadl ar roi pwerau deddfu pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymryd rhan yn y ddadl honno, gyda chyhoeddiad dyddiadau digwyddiadau cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn nesaf, lle gallant leisio eu barn.
24/09/08
Dewiswyd un o Gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan yn y ddadl bwysig ymysg y cyhoedd yng Nghymru ar sut y dylid deddfu yng Nghymru.
23/09/08
Bydd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn Sir Benfro ddydd Gwener 26 Medi i hyrwyddo gwaith y Confensiwn.
14/07/08
Bydd aelodau Confensiwn Cymru Gyfan yn cwrdd am y tro cyntaf heddiw (dydd Llun 14 Gorffennaf) yn adeilad hanesyddol y Pierhead ym Mae Caerdydd, i ddechrau ar y drafodaeth bwysig ymysg y cyhoedd yng Nghymru am sut y dylid pasio deddfau yng Nghymru.
04/07/08
Heddiw, cyhoeddodd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, enwau aelodau Pwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan.
22/05/08
Mae Confensiwn Cymru Gyfan yn chwilio am bedwar aelod o’r cyhoedd i ymuno â’r Pwyllgor a fydd yn llunio rhaglen waith y Confensiwn. Dyma gyfle cyffrous i unrhyw un a fyddai’n hoffi chwarae rhan allweddol yn natblygiad datganoli yng Nghymru.
06/05/08
Heddiw cafodd yr ergyd ei danio i gychwyn y ras i gael hyd i 16 o bobl i fod yn aelodau o Bwyllgor Gwaith Confensiwn Cymru Gyfan.
13/03/08
Heddiw mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, a Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi croesawu adroddiad Pwyllgor Sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan.
22/11/07
Mae Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn ymweld â’r Cynulliad am y tro cyntaf ers ei apwyntiad.
Dolenni perthnasol
Yma gallwch weld detholiad diweddar o ddolenni i straeon yn y wasg am Gonfensiwn Cymru Gyfan.
Yma gallwch darllen areithiau a wnaed ar ran Confensiwn Cymru Gyfan.
