Skip to content

Y ddadl ar ddatganoli – hanes dwy ddinas ddeng mlynedd yn ddiweddarach

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y ddadl ar ddatganoli – hanes dwy ddinas ddeng mlynedd yn ddiweddarach

Gallen nhw ddim fod yn fwy gwahanol. Casnewydd a Chaerdydd. Dwy ddinas yn ne ddwyrain Cymru, ond ar ddau begwn – yn gymdeithasol, daearyddol a gwleidyddol.

Bydd tîm Confensiwn Cymru Gyfan, y sefydliad a grëwyd er mwyn casglu barn pobl o ran rhoi mwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ymweld â’r ddwy ddinas yn fuan.

Yn refferendwm 1997 roedd y ddwy ddinas yn gytun yn eu penderfyniad i wrthod datganoli.  Mi wnaeth 62.5 y cant o bobl Casnewydd bleidleisio yn erbyn, a 55.6 y cant o ddinasyddion Caerdydd yn gwneud yr un fath. Nawr, ddegawd yn ddiweddarach, sialens Confensiwn Cymru Gyfan fydd asesu beth yw’r farn erbyn hyn o ran rhoi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ddydd Iau, 18 Mehefin rhwng 6.30-8.30pm, bydd sesiwn grŵp trafod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Casnewydd, pan fydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gyfrannu i’r ddadl ar ddatganoli.  Yr wythnos ganlynol, ar ddydd Mawrth 23 Mehefin rhwng 9am-5pm, bydd sioe deithiol y Confensiwn yn ymweld â Chanolfan Siopa Capitol, yn y  brifddinas er mwyn siopa am fwy o safbwyntiau oddi wrth aelodau’r cyhoedd. Yn dilyn hwn, ar ddydd Iau 25 Mehefin o 6.30-8.30pm bydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal y sesiwn olaf o’i thaith o gwmpas Cymru.  Disgwylir dros 100 o bobl ar gyfer y cyfarfod Hawl i Holi hwn yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.  Mae croeso i bawb i’r digwyddiadau hyn, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.  

Nid tasg hawdd fydd crisialu barn y cyhoedd, fydd wedi ei gasglu o bob cwr o Gymru yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.  Bydd clamp o dasg yn wynebu Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry, a’i bwyllgor gweithredol wrth geisio adlewyrchu barn pobl Cymru yn gywir.  Mae Syr Emyr yn ddiplomydd profiadol, ac yntau wedi bod yn Gynrychiolydd Parhaol y D.U. ar Gyngor Gogledd yr Iwerydd, ac yn Gynrychiolydd Parhaol y D.U. ar bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd wedi hynny am bedair blynedd, felly mae’n argoeli’n dda.  Ond bydd hon yn dipyn o sialens iddo ef hyd yn oed, er ei fod yn hen law arni.

Yn ôl Syr Emyr:

Rwyf yn mwynhau clywed barn pobl o bob rhan o Gymru yn fawr iawn.  Dyna oedd fy mwriad ac mae’r croeso yr ydw i a’r tîm wedi ei dderbyn mewn gwahanol ardaloedd wedi bod yn galonogol iawn.  Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud wrth reswm.  Mae gwleidyddiaeth yn berthnasol i bob un ohonom, os ydy hynny yn plesio neu beidio.  Mae’n effeithio ar ein bywyd bob dydd ac rwyf eisiau i bobl sylweddoli fod yr hyn maent yn eu ddweud yn dylanwadu ar beth sy’n digwydd yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â Chasnewydd a Chaerdydd, ac o gofio agwedd y ddwy ddinas tuag at ddatganoli, rwy’n rhagweld y bydd y ddau gyfarfod yn rhai bywiog iawn.  Ddegawd yn ddiweddarach, bydd yn ddiddorol cael gwybod beth mae trigolion lleol yn ei feddwl o ddatganoli ac os yw wedi bod yn beth da neu ddrwg iddyn nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Evans, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

Mae’n hollol bwysig bod safbwyntiau’r cyhoedd yn cael eu casglu wrth gynllunio dyfodol ein gwlad.  Mi fydd yn ddiddorol iawn clywed yr hyn sydd gan bobl lleol i ddweud ar ôl 10 mlynedd o’r Cynulliad.  Mae’n fraint gennym gynnal digwyddiad o’r fath yn ein hardal.

Dolenni perthnasol

Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.