Skip to content

Llais i Llanelli

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llais i Llanelli

Fe fydd trigolion Llanelli yn cael y cyfle i ddarganfod mwy am y ddadl datganoli mewn cyfarfod yng Nghymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghanolfan Selwyn Samuel am 7.30 yr hwyr ar ddydd Iau 19eg o Chwefror.

Syr Emyr Jones Parry, cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, y sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fydd yn annerch y Gymdeithas cyn cynnal trafodaethau mwy anffurfiol yn y bar yng Nghlwb Rygbi Llangennech o 9 o’r gloch yr hwyr ar yr un noson.

Mae Confensiwn Cymru Gyfan yn gorff cwbl annibynnol a di duedd. Cafodd ei sefydlu i ddadansoddi'r dadleuon o blaid ac yn erbyn pwerau ychwanegol ac yn ei dro, ei fwriad yw codi ymwybyddiaeth, ysgogi trafodaeth a chymell pobl Cymrui gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ledled y wlad hyd Awst 2009. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd Confensiwn Cymru Gyfan, sy'n Bwyllgor Gweithredol o 16 aelod ynghyd â Syr Emyr, yn cyflwyno eu canfyddiadau cyn diwedd 2009.

Mae cyfarfod Llanelli yn rhan o broses ymgynghoriad cyhoeddus ehangach Confensiwn Cymru Gyfan. Yn ogystal â chynnal trafodaethau mewn prifysgolion eraill, yn cynnwys Caerdydd, Aberystwyth a Bangor, bydd y confensiwn yn cynnal cyfarfodydd, sioe deithio a sesiynau casglu tystiolaeth ar hyd a lled Cymru, yn ymweld â phob Awdurdod Unedol yn ei dro.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry:

Mae gan bawb y cyfle a’r hawl i gael dweud ei dweud yn y drafodaeth hon. Hoffwn annog bobl i fynegi ei barn. Mae barn pawb yn ddilys, pr’un ai yr ydych  o blaid neu yn erbyn cael pwerau deddfu pellach i’r Cynulliad. Hoffwn glywed dwy ochr y ddadl o bob rhan o Gymru.

Dywedodd Ken Owen, cadeirydd cangen Llanelli Cymdeithas Addysg y Gweithwyr:

Mae’n bleser gwahodd Syr Emyr i Lanelli unwaith eto. Dyma’r ail dro iddo annerch yn ein cyfarfodydd. Roeddem yn ffodus i’w glywed yn siarad pan oedd yn Gynrychiolydd Parhaol y DU i’r Cenhedloedd Unedig ac fe gawsom noson wybodus a hwylus yn ei gwmni. Rwy’n sicr, fel cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, y bydd ein cyfarfod nesaf yn ysgogi trafodaeth ac ysgogi’r meddwl.

Dolenni perthnasol

Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.