Skip to content

Adroddiad ymwchwil yn cael ei cyhoeddi

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Adroddiad ymwchwil yn cael ei cyhoeddi

Ymchwil yn datgelu bod y mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn datganoli yng Nghymru wrth i'r Confensiwn nodi'r angen i lenwi'r bwlch mewn gwybodaeth.

Mae canlyniadau ymchwil sylfaenol a wnaed ar ran Confensiwn Cymru Gyfan yn datgelu bod 73% o bobl Cymru o blaid rhyw fath o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

Yn gyffredinol nododd pobl yng Nghymru feysydd polisi unigol lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud gwahaniaeth.

Wrth edrych i'r dyfodol, a refferendwm posibl, dywedodd 48% o bobl pe bai refferendwm yn cael ei gynnal y byddent yn cefnogi rhoi pwerau deddfu llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, tra byddai 35% yn pleidleisio yn erbyn, 13% heb benderfynu ac ni fyddai 2% yn pleidleisio o gwbl.

Ymchwiliwyd i'r ffactorau a fyddai'n effeithio ar farn pobl mewn unrhyw refferendwm yn fanwl mewn grwpiau ffocws.  Tra bod rhai yn credu'n gryf o blaid neu yn erbyn rhoi rhagor o bwerau deddfu i Gymru, roedd yn well gan y rhan fwyaf a gymerodd ran bwyso a mesur yr effaith y byddai rhoi mwy o bwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei chael ar eu bywydau.  Roeddent am wybod sut y byddai pwerau deddfu yn berthnasol iddynt.

Er enghraifft, teimlai rhai y byddai gan wneuthurwyr polisi yng Nghymru ddealltwriaeth well o'r cyd-destun Cymreig, tra bod eraill o'r farn nad oedd y Cynulliad yn ddigon cymwys i ddelio â rhagor o bwerau.  Roedd llawer o bobl yn y grŵp mwyafrifol hwn yn dawel hyderus ynghylch rhoi rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, naill ai cam wrth gam drwy'r system bresennol neu drwy gael y cyfan ar unwaith fel opsiwn yn y dyfodol. Roedd barn ar sut y dylai Cymru gael rhagor o bwerau yn gysylltiedig â theimlo'n fodlon ar nifer o gwestiynau sydd heb eu datrys - fel p'un a yw'r Cynulliad yn barod ar gyfer newid o'r fath a beth fyddai effaith ariannol newid o'r fath.

Amlygodd yr ymchwil yr her o gyfleu i bobl Cymru yn effeithiol sut y gwneir deddfau a sut y mae'n berthnasol i'w bywydau. Roedd y mwyafrif yn teimlo bod y trefniadau presennol yn gymhleth ac yn anodd eu deall. Ceisiodd yr ymchwil ganfod o ble y cawsai pobl eu gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru. Dibynnai'r mwyafrif helaeth ar y teledu a'r wasg Genedlaethol fel ffynonellau gwybodaeth.

Cefnogodd yr arolwg dros y ffôn yr ymdeimlad bod cwestiynau yr hoffai pobl Cymru gael atebion iddynt.  O'r rhai a holwyd, credai bron i hanner (48%) yn anghywir y byddai unrhyw bwerau deddfu a geid ar ôl refferendwm yn golygu y byddai gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu sylfaenol dros bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, gyda 26% hefyd yn credu'n anghywir y byddai Cymru yn gwbl annibynnol ar y DU os byddai'r Cynulliad yn cael rhagor o bwerau. Felly mae'n ymddangos bod bwlch gwybodaeth, y bydd y Confensiwn yn ceisio'i lenwi dros y misoedd nesaf.

Mae holl ganfyddiadau'r ymchwil yn dangos yr angen i Gonfensiwn Cymru Gyfan geisio rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl Cymru iddynt, er mwyn iddynt allu gwneud dewis hyddysg am sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o bwerau deddfu.  Bydd y Confensiwn yn ceisio rhoi atebion ffeithiol i gwestiynau heb eu datrys, wrth iddo barhau i annog pobl i fynnu cael gwybodaeth ac i ymgysylltu'n llawn â'r drafodaeth bresennol ar roi rhagor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae eisoes yn cyfleu'r neges drwy ei wefan, sesiynau tystiolaeth, rhaglen digwyddiadau cyhoeddus, sefydliadau rhanddeiliaid a'i strategaeth gyfathrebu gyffredinol.

Mae'r ymchwil wedi rhoi gwybodaeth interim sy'n berthnasol i gylch gwaith Confensiwn Cymru Gyfan mewn chwe maes allweddol:

  • Agweddau tuag at ddatganoli
  • Cipolwg ar fwriad pleidleisio pobl
  • Y ffactorau a fyddai'n effeithio ar benderfyniadau pleidleisio
  • Dealltwriaeth o ba bwerau sydd wedi'u datganoli eisoes
  • Dealltwriaeth o'r hyn y byddai rhagor o bwerau yn ei gynrychioli
  • Sut mae pobl yng Nghymru yn cael gwybodaeth sy'n berthnasol i'r drafodaeth

Yn ogystal â'r wybodaeth ystadegol o arolwg ffôn eang ei gwmpas, mae'r ymchwil yn rhoi gwybodaeth fanwl am agweddau pobl tuag at ddatganoli a phwerau deddfu'r Cynulliad, o ganlyniad i gyfres o grwpiau trafod a gynhaliwyd mewn pum tref yng Nghymru sef Glynebwy, Llanbedr Pont Steffan, Bangor, Yr Wyddgrug a Chaerdydd.

Mae Confensiwn Cymru Gyfan, sydd wedi'i gadeirio gan Syr Emyr Jones Parry, yn gorff cwbl annibynnol a diduedd. Fe'i sefydlwyd i ddadansoddi'r dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi pwerau ychwanegol, ac yn ei dro codi ymwybyddiaeth, ysgogi trafodaeth ac annog pobl Cymru i ymgysylltu â'r ymgynghoriad cenedlaethol, sydd bellach yn mynd rhagddo. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, bydd Confensiwn Cymru Gyfan, sy'n cynnwys 16 o aelodau o Bwyllgor Gweithredol ynghyd â Syr Emyr, yn cyflwyno eu canfyddiadau erbyn diwedd 2009.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry:

Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn ddadansoddiad o'r ymchwil cychwynnol a wnaed er mwyn deall y prif faterion sy'n dylanwadu ar y drafodaeth am bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Mae'n fan cychwyn ddefnyddiol iawn i Gonfensiwn Cymru Gyfan.

O hyn ymlaen gallwn bellach gymharu a mesur unrhyw newidiadau mewn canfyddiadau ac agweddau wrth i'r drafodaeth gyhoeddus ar y pwerau presennol sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Un o'n prif nodau yw hysbysu pobl o'r ffordd y mae'r Cynulliad yn deddfu ar hyn o bryd ac egluro pa opsiynau a allai fod ar gael yn y dyfodol agos. Mae'r ymchwil yn dangos bod gan bobl ddealltwriaeth o bwerau'r Cynulliad ond nid ydynt yn siŵr o'r prosesau ac mae'r derminoleg a thermau cymhleth sy'n anodd eu deall yn gwneud iddynt golli diddordeb.  

Dyma'r rheswm pam ein bod yn awyddus i egluro pethau mewn iaith bob dydd. Rwyf am i aelodau'r cyhoedd fod yn gynyddol ymwybodol o'r drafodaeth a chymryd rhan ynddi. Mae barn pawb yn cyfrif, ac rydym am glywed am y safbwyntiau hyn a pham eu bod yn credu ynddynt.

Ar hyn o bryd mae Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal cyfres gynhwysfawr o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru. Mae fforwm ar-lein hefyd wedi cael ei sefydlu sy'n rhoi cyfle i bobl rannu eu barn ar ddatganoli mewn ffordd ryngweithiol.

Dolenni perthnasol

Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyfrannu i’r drafodaeth drwy’r fforwm arlein.
Mae canlyniadau ymchwil cychwynnol yn datgelu bod 73% o bobl Cymru o blaid rhyw fath o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.