Cymerwch sedd yng Nghonfensiwn Cymru Gyfan!
Gwaith y Confensiwn yw braenaru’r tir ar gyfer refferendwm posibl ar y cynnig o roi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd angen i’r Pwyllgor Gweithredol bennu cyfeiriad y Confensiwn, ac ystyried amryw o ystyriaethau y mae’r Confensiwn yn eu hwynebu.
Ymhlith yr ystyriaethau hyn fydd penderfynu sut i ennyn diddordeb y cyhoedd ledled Cymru.
Dymuniad y Confensiwn yw denu’r trawstoriad ehangaf posibl o bobl i ymuno â’r drafodaeth ynghylch pwerau presennol y Cynulliad, sut y maent yn gweithio ar hyn o bryd, a’r dadleuon posibl o blaid rhoi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.
Bydd angen hefyd i’r Pwyllgor lunio adroddiad ar ganfyddiadau’r Confensiwn, ar sail yr hyn y byddant wedi’i glywed gan y cyhoedd a thystiolaeth arall a fydd wedi dod i law, erbyn diwedd 2009.
Mae pedair o’r 16 o seddau ar y Pwyllgor Gweithredol yn agored i’r cyhoedd, ac mae’r Confensiwn yn pwyso ar bobl o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru i wneud cais. Mae angen pobl o bob cwr o gymdeithas ar y Pwyllgor, eang eu doniau a’u profiad, a fydd yn gallu adlewyrchu Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Meddai Cadeirydd y Confensiwn, Syr Emyr Jones Parry:
Rwy’n galw ar i aelodau’r cyhoedd wirfoddoli a gwasanaethu ar y Confensiwn. Bydd cyfle i’r pedwar a ddewisir fod yn rhan o broses gyffrous, o ysgogi trafodaeth ledled Cymru, i ddadansoddi’r hyn a glywn gan y cyhoedd yng Nghymru, gan arfer dirnadaeth i sicrhau bod yr adroddiad a roddwn yn y pen draw yn trafod pob agwedd ar ein cylch gorchwyl.
Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi’i sefydlu, byddwn yn awyddus i gysylltu’n eang â phawb sydd â diddordeb yng ngwaith y Confensiwn.
Er mai’r Pwyllgor fydd yn pennu cyfeiriad gwaith y Confensiwn, diben y Confensiwn yw cynnwys pawb sydd am fod yn rhan ohono – a byddwn yn awyddus i glywed barn pob unigolyn a grŵp sydd â rhywbeth i’w ddweud am y modd y mae datganoli wedi effeithio arnyn nhw, a’r hyn yr hoffen nhw ei weld yn digwydd yn y dyfodol.
Dylai aelodau’r cyhoedd sydd am wasanaethu ar y Confensiwn ofyn am becyn gwneud cais trwy fynd i www.confensiwncymrugyfan.org, neu drwy anfon e-bost i publicappointments@wales.gsi.gov.uk neu ffonio (029) 2082 3799.
I gael mwy o fanylion mae croeso i chi gysylltu â Nia Jones yng Nghonfensiwn Cymru Gyfan ar 07966 910007 neu anfonwch e-bost i gwasg.confensiwn@cymru.gsi.gov.uk
