Gwleidyddion yn cyflwyno tystiolaeth ffurfiol i Confensiwn Cymru Gyfan
Ymysg y rhai sydd wedi cofrestru i gyflwyno tystiolaeth mae y Prif Weinidog Rhodri Morgan AC, Dirprwy Prif Weinidog Ieuan Wyn Jones AC ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams AC. Cynhelir y sesiwn casglu tystiolaeth yn Ystafell Bwyllgora 7, Canolfan Ddinesig Casnewydd, 9 y bore – 5 y prynhawn.
Yn ogystal â’r sesiynau casglu tystiolaeth, sydd yn agored i aelodau’r cyhoedd os ydynt eisiau mynychu i wrando, neu gyflwyno tystiolaeth ffurfiol, mae nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus ar draws Cymru megis sioeau teithiol mewn canolfannau siopa i ddawnsfeydd tê a thrafodaethau panel. Mae’r digwyddiad cyhoeddus Hawl i Holi nesaf yn Stadiwm Cwmbran ar ddydd Mercher 1af o Ebrill, 6.30-8.30 yr hwyr a bydd digwyddiad Grŵp Trafod yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Pontypridd ar ddydd Iau 2il o Ebrill, 6.30-8.30 yr hwyr.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan:
Mae’r ymgynghoriad gyhoeddus yn siawns i bobl Cymru, boed nhw’n wleidyddion neu beidio, i gael rhoi eu barn ar ddyfodol datganoli yng Nghymru.
Rydym yn croesawu y nifer fawr o gyfraniadau sydd eisioes wedi eu gwneud ac yn edrych ymlaen at glywed y dystiolaeth yng Nghasnewydd a mwy dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi yr adroddiad terfynol sydd i’w gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn.
