Digwyddiadau sydd wedi'u cynnal
Gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi'u cynnal.
11/08/09
Ymunodd cyd-aelodau Pwyllgor Gweithredol y Confensiwn, Aled Edwards a John Jones, â Chadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry, i arwain digwyddiad Hawl i Holi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala.
27/07/09
Ymateb cymysg i fwy o bwerau deddfu yn y Sioe Frenhinol
21/07/09
Busnesau Sir Benfro a Cheredigion yn lleisio’u barn
15/07/09
Gwnaeth Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, ymrwymiad i gwrdd â phob Cyngor Sir yng Nghymru yn ystod 2009.
06/07/09
Ar ddydd llun y 6ed o Orffennaf, cymerodd Nick Bennett, aelod o bwyllgor gwaith y Confensiwn rhan mewn digwyddiad Sefydliad Bevan yn Ganolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd.
29/06/09
Ddydd Llun 29ain Mehefin, cymerodd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, ran yn 7fed Cynhadledd Flynyddol Llywodraethu yng Nghymru Capita yng Ngwesty'r Marriot, Caerdydd.
25/06/09
Daeth rhaglen digwyddiadau cyhoeddus Confensiwn Cymru Gyfan i ben nos Iau 25 Mehefin, pan gynhaliodd ei ddadl 'Hawl i Holi' olaf yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
25/06/09
Cynhaliodd Confensiwn Cymru Gyfan eu sesiwn gasglu tystiolaeth olaf yng Nghaerdydd ar ddydd Iau y 25ain o Fehefin yn Neuadd y Ddinas.
23/06/09
Ddydd Mawrth 23ain Mehefin, cymerodd Shan Aston, Aelod o Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan, ran yng Nghynhadledd Materion Cyhoeddus Sefydliad y Merched yn y Drenewydd.
23/06/09
Ymwelodd cerbyd cyhoeddusrwydd Confensiwn Cymru Gyfan â Chanolfan siopa'r Capitol, Caerdydd ddydd Mawrth 23 Mehefin. Dyma bumed sioe deithiol Confensiwn Cymru Gyfan yng Nghymru mewn ymdrech i geisio barn y cyhoedd.
18/06/09
Ymwelodd Confensiwn Cymru Gyfan â Chasnewydd yr wythnos diwethaf i gynnal ei 21ain digwyddiad cyhoeddus.
15/06/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ganolbarth Cymru i glywed tystiolaeth gan bobl o Bowys yn y sesiwn gasglu tystiolaeth a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref, Llandrindod.
11/06/09
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Ty Hywel, Bae Caerdydd.
11/06/09
Ymwelodd Confensiwn Cymru Gyfan â Sefydliad Llanhiledd ym Mlaenau Gwent yr wythnos diwethaf, i gynnal ei 20fed digwyddiad cyhoeddus.
10/06/09
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar Ewrop a materion llywodraeth leol yn Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd.
10/06/09
Ymwelodd Confensiwn Cymru Gyfan â Chanolfan Gymunedol Parc Victoria ym Mro Morgannwg yr wythnos diwethaf, i gynnal ei 19eg digwyddiad cyhoeddus.
04/06/09
Roedd y sesiwn gasglu tystiolaeth hon i Gonfensiwn Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar y cyfryngau a materion llywodraeth leol yn Ty Hywel, Bae Caerdydd.
30/05/09
Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, fe annogodd Confensiwn Cymru Gyfan i ieuenctid Cymru leisio eu barn fel rhan o’u proses ymgynghori parhaol gyda’r cyhoedd ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael er mwyn cynnig mwy o bwreau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
19/05/09
Ddydd Mawrth 19eg Mai, cymerodd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, ran yng Nghynhadledd Flynyddol TUC Cymru yn Venue Cymru, Llandudno.
14/05/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Sir Fynwy ddydd Iau 14 Mai, gan gynnal ei seithfed digwyddiad 'Hawl i Holi' yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy.
14/05/09
Cynhaliwyd sesiwn casglu tystiolaeth gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar y 14eg o Fai.
13/05/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Chanolfan Blant Integredig Cwm Golau ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, ddydd Mercher 13 Mai i gynnal digwyddiad i'r teulu.
12/05/09
Cyfarfu Confensiwn Cymru Gyfan â phobl ifanc yn nigwyddiad y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd (CEWC) a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel ddydd Mawrth 12 Mai.
23/04/09
Cafodd sesiwn gasglu tystiolaeth ei chynnal gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Neuadd y Dref, Wrecsam ar y 23ain o Ebrill.
23/04/09
Ymwelodd Confensiwn Cymru Gyfan â Phrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf, i gynnal ei unfed achlysur cyhoeddus ar bymtheg.
22/04/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan yn ôl i’r ysgol ddydd Mercher 22 Ebrill gan ymweld ag Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug ar gyfer ei chweched achlysur yn arddull y rhaglen ‘Question Time’.
21/04/09
Ymwelodd Confensiwn Cymru Gyfan â Neuadd y Dref Dinbych yn Sir Ddinbych yr wythnos ddiwethaf, i gynnal ei bedwerydd achlysur cyhoeddus ar ddeg.
18/04/09
Ddydd Sadwrn 18fed Ebrill, cymerodd Ysgrifenyddiaeth Confensiwn Cymru Gyfan ran yng Nghynhadledd Breswyl Prif Cyngor Y Ddraig Ffynci 2009 ym Mae Morfa, Pentywyn.
03/04/09
Ar 3ydd Ebrill 2009, cyfarfu John Jones â chyngor ysgol Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn.
02/04/09
Cafwyd sesiwn gasglu tystiolaeth brysur ym Mhencadlys Cyngor Casnewydd ar yr 2il o Ebrill gyda Chonfensiwn Cymru Gyfan.
02/04/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i Glwb Rygbi Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos diwethaf, i gynnal ei drydydd digwyddiad cyhoeddus ar ddeg.
01/04/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i Stadiwm Cwmbrân yn Nhor-faen ar 1 Ebrill ar gyfer pumed digwyddiad tebyg i 'Hawl i Holi'.
24/03/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â The Monty Club yn y Drenewydd, Powys ar 24 Mawrth i gynnal pedwerydd digwyddiad tebyg i 'Hawl i Holi'.
20/03/09
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth Confensiwn Cymru Gyfan yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd ar yr 20fed o Fawrth.
10/03/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Theatr y Grand yn Abertawe ar 10 Mawrth i gynnal trydydd digwyddiad tebyg i 'Hawl i Holi'.
10/03/09
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth Confensiwn Cymru Gyfan yn Abertawe ar y 10fed o Fawrth yn Neuadd y Dref, Abertawe.
06/03/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Marchnad Ffermwyr yr Hwlffordd ddydd Gwener 6 Mawrth, gan gwblhau pedwerydd cam ei sioe deithiol.
05/03/09
Agorwyd gatiau'r ysgol i groesawu Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan.
05/03/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i Glwb Rygbi y Quins yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf, i gynnal ei wythfed digwyddiad cyhoeddus.
05/03/09
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth fer ar gyfer Confensiwn Cymru Gyfan yn swyddfeydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin ar y 5ed o Fawrth.
04/03/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf i gynnal ei ail ddigwyddiad 'Hawl i Holi'.
26/02/09
Cynhaliwyd sesiwn casglu tystiolaeth brysur arall yn swyddfeydd Penrallt Cyngor Gwynedd, gyda phedwar gwahanol unigolyn a sefydliad arall yn cyflwyno tystiolaeth i banel o aelodau'r Pwyllgor Gweithredol.
26/02/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â phentref Niwbwrch yn Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf i gynnal ei ddigwyddiad 'Hawl i Holi' cyntaf.
26/02/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan ar daith gyda'i sioe deithiol eto, gan gwblhau ei bumed digwyddiad cyhoeddus ym Mangor.
25/02/09
Anogodd Syr Emyr bobl Bangor i ymuno â'r drafodaeth.
25/02/09
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i Venue Cymru yn Llandudno yr wythnos diwethaf i gynnal ei bedwerydd digwyddiad cyhoeddus.
24/02/09
Mae Llywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn dod yn ôl i gyflwyno neges bwysig i staff a myfyrwyr.
20/02/09
Aeth Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn ôl i'r ddarlithfa ddydd Gwener i siarad â myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
19/02/09
Ym mis Chwefror, cynhaliodd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ddarlith a gyflwynwyd gan gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry.
12/02/09
Ar 12fed Chwefror cyrhaeddodd myfyrwyr Safon Uwch o wyth ysgol ledled Cymru adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd ar gyfer cynhadledd am wleidyddiaeth.
05/02/09
Cyflwynodd Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan ei ddarlith gyntaf mewn prifysgol ar bwerau deddfu yng Nghymru.
05/02/09
Er gwaethaf yr eira, cynhaliwyd y Sesiwn Casglu Tystiolaeth gyntaf yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar Chwefror 5ed 2009.
05/02/09
Mentrodd Confensiwn Cymru Gyfan allan yn yr eira yr wythnos ddiwethaf a chwblhau ei drydydd digwyddiad cyhoeddus yng Nghaerffili.
15/01/09
Siopa a gwleidydda.
14/01/09
Trafodaeth iach a chyrri oedd ar fwydlen y digwyddiad cyhoeddus cyntaf erioed i Gonfensiwn Cymru Gyfan. Daeth dros 80 o bobl at ei gilydd yn Seaside Social and Labour Club ar noson oer ym mis Ionawr yn Aberafan, Port Talbot.
11/12/08
Bydd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn siarad â Chyfarfod Cyngor CBI Cymru ar yr 11eg o Ragfyr 2008.
02/12/08
Cynhaliodd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ddigwyddiad ar ran Confensiwn Cymru Gyfan yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 2 Rhagfyr 2008.
14/11/08
Bydd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn siarad yng Nghynhadledd Flynyddol CIPFA Cymru a gynhelir yng Nghaerdydd ar 27 Tachwedd 2008.
07/11/08
Yn ddiweddar bu Sir Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, yn ddychwelyd â’i hen ysgol gynradd.
24/10/08
Diwedd y prynhawn ar 24ain Hydref cydgadeiriwyd cyfarfod o gynrychiolwyr o rwydwaith CEMVO yn Abertawe gan Gadeirydd y Confensiwn, Syr Emyr Jones Parry, ac aelod o'r Pwyllgor Gweithredol, Shereen Williams.
24/10/08
Aeth Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, i gyfarfod Sefydliad y Cyfarwyddwyr - Cymru yn Abertawe ar 24 Hydref.
10/10/08
Cyflwynodd Syr Emyr Jones Parry anerchiad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Llandudno ar 10 Hydref 2008.
09/10/08
Roeddem yn falch ddydd Iau o allu cynnal digwyddiad yng Nghaernarfon i grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol - i roi'r cyfle cyntaf i'w cynrychiolwyr weld beth mae gwaith y Confensiwn yn ei gwmpasu.
26/09/08
Aeth Syr Emyr i ddigwyddiad y sector cymunedol a'r sector gwirfoddol yng Ngholeg Sir Benfro ar ddydd Gwener 26 Medi 2008 a drefnwyd ar y cyd gan Joan Asby, prif swyddog PLANED (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu) a Sue Leonard, Prif Swyddog PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau
...
25/09/08
Beth yw'r Confensiwn Cymru Gyfan a beth yw pwysigrwydd y Confesiwn i weithwyr materion cyhoeddus yng Nghymru ac i gymdeithas sifil?
11/09/08
Mae'r Confensiwn yn awyddus i fentro allan a lledaenu'r neges am yr angen i gynnal trafodaeth yng Nghymru ar ddatganoli a phwerau gwneud deddfau i'r Cynulliad - ac ar 11eg Medi, aeth Sally Hyman, aelod o bwyllgor gweithredol y Confensiwn, â'r neges i Fforwm Blynyddol Partneriaeth Si
...
08/08/08
Roedd stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru dan ei sang ar gyfer sesiwn holi ac ateb yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd. Dim ond lle i sefyll oedd yn y cefn!
