Myfyrwyr Gwleidyddiaeth Safon Uwch yn cyfrannu gyda Chonfensiwn Cymru Gyfan
Dyddiad y Digwyddiad: 12/02/2009
Roedd aelodau ysgrifenyddiaeth Confensiwn Cymru Gyfan yno i gwrdd â nhw ac i wrando ar eu barn am y system ddeddfu bresennol yng Nghymru, ac opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu â materion gwleidyddol, wedi'r cyfan, bydd unrhyw benderfyniadau a wneir yn effeithio arnynt hwythau hefyd.
Mynychodd y myfyrwyr ddarlithoedd ar y pynciau canlynol:
- Craffu: dwyn y Llywodraeth i gyfrif
- Cymryd Rhan a Sut i Gymryd Rhan
- Golwg ar y broses ddeisebu ac astudiaethau achos
Yn dilyn hyn, treuliodd aelodau Confensiwn Cymru Gyfan amser yn hysbysu'r myfyrwyr am yr ymgynghoriad cyhoeddus, a chwblhaodd 38 ohonynt holiaduron, a bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio yn ein hadroddiad terfynol.
Hoffai Confensiwn Cymru Gyfan ddiolch i'r ysgolion canlynol am eu cyfraniadau gwerthfawr:
- Ysgol Syr Hugh Owen (Caernarfon)
- Ysgol Gyfun Glantaf (Caerdydd)
- Ysgol Gyfun Croesyceiliog (Cwmbrân)
- Ysgol Alun (Sir y Fflint)
- Ysgol Maes Garmon (Yr Wyddgrug)
- Ysgol Morgan Llwyd (Wrecsam)
- Coleg Gwent (Crosskeys)
- Ysgol Gyfun Gwynllyw (Tor-faen)
Os hoffech rannu eich barn gyda ni yna gallwch wneud hynny drwy ymweld ag adran 'Mynnwch Gyfrannu' ein gwefan neu drwy ddod i siarad â ni yn un o'n digwyddiadau. Am restr lawn o'n holl ddigwyddiadau ewch i'r dudalen 'digwyddiadau i ddod'.
