Digwyddiad i Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol Caernarfon, 9 Hydref 2008
Dyddiad y Digwyddiad: 09/10/2008
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty'r Celtic Royal yng Nghaernarfon ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o 21 o grwpiau cymunedol a gwirfoddol amrywiol yn yr ardal gan gynnwys Antur Waunfawr, Clwb Busnes Gogledd Cymru, Cynllun Tro Da Benllech a Merched y Wawr Môn.
Roedd yn ddigwyddiad bywiog a brwd, gyda'r cyfranogwyr yn cydweithio mewn grwpiau bach i ystyried amrywiaeth o bynciau gan gynnwys beth mae'r Cynulliad wedi'i wneud hyd yn hyn, a beth y gallai ddod yn sgîl pwerau newydd. Hwn oedd y cyfle cyntaf i lawer o gyfranogwyr ymwneud â gwaith y Confensiwn, ac arweiniodd at drafodaeth fywiog ar y manteision a'r anfanteision i'r rhanbarth yn sgîl dyfodiad y Cynulliad.
Gan sgwrsio ar ôl y digwyddiad dywedodd y bobl a ddaeth y byddent yn edrych ymlaen at y digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn newydd y Gogledd ac y byddent yn annog eu haelodau i ymuno â'r drafodaeth naill ai drwy fynychu'r sesiynau neu drwy ymateb drwy lythyr, drwy e-bost, neu drwy ymuno â'r gr?p trafod ar Facebook.
