Digwyddiad Cyhoeddus Caerffili - 5 Chwefror 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 05/02/2009
Ar y cam hwn o'r daith bu cerbyd sioe deithiol Confensiwn Cymru Gyfan yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell yng Nghaerffili. Bu tîm o staff ac Aelodau Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan yn siarad â siopwyr a'r rhai a oedd yn cerdded heibio. Atebodd y tîm gwestiynau am bwerau presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Cyfrannodd dros 100 o bobl at drafodaeth Confensiwn Cymru Gyfan yng Nghaerffili, a chwblhaodd pob un ohonynt holiadur byr i fynegi eu barn.
Hwn oedd y trydydd digwyddiad mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i geisio cysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru. Bydd y digwyddiad nesaf yng Nghonwy ar 25ain Chwefror yn Venue Cymru, Llandudno.
Am restr lawn o ddigwyddiadau ewch i dudalen 'Digwyddiadau i ddod'. Yn y cyfamser gallwch rannu eich barn â ni trwy fynd i’r adran 'Mynnwch gyfrannu'.
