Sesiwn Gasglu Tystiolaeth Caerdydd – 11 Mehefin 2009
Cynhaliwyd sesiwn gasglu tystiolaeth gan Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Ty Hywel, Bae Caerdydd.
Dyddiad y Digwyddiad: 11/06/2009
Roedd yn ddiwrnod prysur ac yn ymuno â Syr Emyr Jones Parry oedd Aled Edwards, Paul Valerio, John Jones ac Efa Gruffudd Jones yn eistedd ar y panel am y tro cyntaf. Clywson nhw dystiolaeth gan:
- Neil Wooding a Kate Bennett o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
- Gareth Price a Stephen Thomas o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru;
- Graham Benfield a Michelle Matheron o Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru;
- Menna Machreth a Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith;
- Naomi Brightmore o Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru.
Mae trawsgrifiadau o'r sesiwn hon ar gael ar ein tudalen Tystiolaeth Lafar, ar y dde o dan 'Dolenni perthnasol'.
Dolenni perthnasol
Mae'r adran tystiolaeth lafar yn cynnwys trawsgrifiadau o'r sesiynau casglu tystiolaeth lafar ffurfiol fel y gallwch ddarllen yr hyn a ddywedwyd.
