Digwyddiad Cyhoeddus Ceredigion - 4 Mawrth 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 04/03/2009
Croesawodd Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, dros 70 o bobl i amgylchedd clyd y 'Drwm' - prif theatr y llyfrgell.
Cymerodd pedwar panelwr ran yn y drafodaeth a gadeiriwyd gan y newyddiadurwr a'r cyflwynydd lleol, Catrin Beard.
Ymhlith aelodau'r panel roedd y Cynghorydd Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Ben Hallett, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; a Tegwen Morris, Trefnydd Cenedlaethol Merched y Wawr.
Roedd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd y Confensiwn hefyd ar y panel, a bu'n rhoi trosolwg o nodau'r Confensiwn, a phwerau deddfu cyfredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, gwahoddwyd pob un a oedd yn bresennol i holi cwestiynau i aelodau'r panel, a hefyd i gael cyfle i ymateb i'r cwestiynau. Nid oedd prinder cwestiynau gan y gynulleidfa, a arweiniodd at drafodaeth fywiog.
Cafodd pawb a oedd yn bresennol hefyd badiau pleidleisio rhyngweithiol i gofnodi eu hymatebion i gwestiynau allweddol. Dangosodd canlyniadau pleidlais y grŵp y canlynol:
- dywedodd 98 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol y byddent yn pleidleisio pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar bwerau deddfu.
- Nododd dros 80 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad eu bod o blaid rhoi'r pwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol i gyd ar unwaith, yn hytrach na chadw'r sefyllfa bresennol gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael mwy o bwerau gam wrth gam gyda chytundeb Senedd y DU.
Bu'r tîm o staff ac Aelodau o Bwyllgor Gweithredol y Confensiwn yn sgwrsio â gwesteion dros baned o de yn dilyn y digwyddiad.
Hwn oedd y seithfed digwyddiad mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal ledled Cymru i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru.
Os hoffech chi ddarllen adroddiad mwy manwl o’r digwyddiad yma, cliciwch ar yr atodiad sydd ar waelod y tudalen o dan 'Lawrlwytho Dogfen'.
