Cyfarfod gyda Chynghorau Sir - Digwyddiad y Pwyllgor Gweithredol, Ionawr - Gorffennaf, 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 15/07/2009
Mae cynghorau yn chwarae rhan allweddol yn y broses ddemocrataidd. Yn ôl CLlLC:
Mae cynghorau yn gwneud llawer mwy na darparu gwasanaethau lleol yn ddyddiol. Maent yn arweinwyr cymunedol sy'n arwain a chefnogi sefydliadau partner, a dylanwadu arnynt i weithio tuag at nodau cyffredin i ddiwallu anghenion a gwireddu dyheadau eu cymunedau.
Roedd Syr Emyr yn awyddus i gwrdd ag aelodau Cynghorau i egluro nodau ac amcanion y Confensiwn. Hefyd, gofynnodd Syr Emyr i'r Cynghorau am eu barn ar weithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd a ph'un a fyddai rhagor o bwerau deddfu o gymorth i'r gydberthynas neu'n ei rhwystro.
Dyma restr o'r dyddiadau yr ymwelodd Syr Emyr â phob Cyngor:
Cyngor Abertawe 19.02.09
Cyngor Castell-nedd Port Talbot 19.02.09
Cyngor Conwy 25.02.09
Cyngor Ynys Môn 26.02.09
Cyngor Gwynedd 27.02.09
Cyngor Sir Gaerfyrddin 05.03.09
Cyngor Rhondda Cynon Taf 11.03.09
Cyngor Merthyr 11.03.09
Cyngor Caerdydd 18.03.09
Cyngor Tor-faen 01.04.09
Cyngor Sir Ddinbych 22.04.09
Cyngor Sir y Fflint 22.04.09
Cyngor Wrecsam 22.04.09
Cyngor Casnewydd 28.05.09
Bro Morgannwg 28.05.09
Cyngor Caerffili 28.05.09
Cyngor Ceredigion 09.06.09
Cyngor Powys 15.06.09
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 29.06.09
Cyngor Blaenau Gwent 29.06.09
Cyngor Sir Fynwy 10.07.09
Cyngor Sir Benfro 15.07.09
