Digwyddiad Cyhoeddus Sir y Fflint - 22 Ebrill 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 22/04/2009
Cadeiriwyd yr achlysur gan y cyflwynydd teledu, Arfon Haines Davies, ac roedd mwy na 70 o bobl yn bresennol.
Gwahoddwyd pawb a oedd yn bresennol i holi cwestiynau i banel a oedd yno i helpu i hwyluso ac ysgogi’r drafodaeth.
Ymhlith aelodau’r panel roedd dau Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Janet Ryder a Mark Isherwood; Jeremy Salisbury, Cadeirydd Pwyllgor Gogledd Cymru’r CBi; a’r Cynghorydd Tony Sharps o Gyngor Sir y Fflint.
Hefyd ar y panel roedd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd y Confensiwn, a oedd yn gallu cyflwyno darlun cyffredinol o amcanion y Confensiwn a’r pwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd i ddeddfwriaethu.
Yn ystod yr achlysur, gwahoddwyd pawb a oedd yn bresennol i holi cwestiynau i aelodau’r panel a rhannu eu sylwadau am ddatganoli. Cafwyd cymysgedd amrywiol o gwestiynau a sylwadau gan y gynulleidfa, gan arwain at drafodaeth dda.
Hefyd, derbyniodd y rhai a oedd yn bresennol offer pleidleisio rhyngweithiol i gofnodi eu hymatebion i gwestiynau allweddol, gan roi cyfle i bawb yn y gynulleidfa leisio eu barn am y materion dan drafodaeth.
Datblygodd addysgu pobl ieuainc am y Cynulliad a’i gyfraniad at wneud penderfyniadau i fod yn elfen allweddol o’r drafodaeth:
- dywedodd 92 y cant o’r rhai a oedd yn bresennol y dylid sicrhau mwy o addysg i wneud pobl ieuainc yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad.
- cytunai 56 y cant o’r gynulleidfa y dylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16.
Er bod y mwyafrif yn cytuno bod angen addysgu pobl ieuainc yn well am y Cynulliad, roedd y gynulleidfa’n rhanedig ynghylch pa un ai oedd diffyg gwybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol yn gyffredinol.
- dywedodd 50 y cant o’r bobl bod diffyg gwybodaeth, ond roedd 44 y cant yn anghytuno â hyn.
Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch y modd y mae’r Cynulliad yn cyfathrebu ei weithgareddau a rôl y cyfryngau.
- honodd 72 y cant o’r gynulleidfa eu bod yn gwylio BBC Wales ac ITV Wales yn rheolaidd a dywedodd 28 y cant nad oeddent yn gwneud hynny.
Pan holwyd y gynulleidfa ynghylch sut y byddai’n pleidleisio pe cynhelid refferendwm:
- dywedodd 97 y cant o’r rhai a oedd yn bresennol y byddent yn pleidleisio pe cynhelid refferendwm dros bwerau deddfwriaethu.
- O blith y rhain, dywedodd 57 y cant eu bod o blaid rhoi i’r Cynulliad bwerau deddfwriaethu i gyd ar unwaith tra dywedodd 43 y cant y byddent yn pleidleisio i gadw’r sefyllfa bresennol o ennill pwerau gan wrth gam, gyda chytundeb Senedd y DG.
Yn dilyn yr achlysur, parhaodd y tîm o staff ac Aelodau Pwyllgor Gweithredol y Confensiwn i drafod gyda’r gwahoddedigion dros de a choffi.
Yr achlysur hwn oedd y pymthegfed mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus i’w cynnal ledled Cymru, gan geisio cynnwys y cyhoedd yng Nghymru.
Cynhelir achlysur nesaf Confensiwn Cymru Gyfan ar ffurf ‘Question Time’ yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy ddydd Iau 14 Mai.
