Cynhadledd Llywodraethu yng Nghymru - Digwyddiad y Pwyllgor Gweithredol - 29 Mehefin, 2009
Ddydd Llun 29ain Mehefin, cymerodd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, ran yn 7fed Cynhadledd Flynyddol Llywodraethu yng Nghymru Capita yng Ngwesty'r Marriot, Caerdydd.
Dyddiad y Digwyddiad: 29/06/2009
Daeth y gynhadledd ag ymatebion strategol ac ymarferol pellgyrhaeddol ynghyd o'r cyrff sector cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol sy'n gyfrifol am weithredu agenda Creu'r Cysylltiadau yn ystod y cyfnod hwn o ddirwasgiad.
Rhoddodd Syr Emyr y brif araith i gloi, ar y teitl Cynnydd Confensiwn Cymru Gyfan: Goblygiadau yn y dyfodol o ran llywodraethu Cymru a'i phwerau deddfu sylfaenol. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb fywiog. Ar ddiwedd y sesiwn gofynnodd Syr Emyr i bobl godi llaw i ddangos beth oedd eu barn ar bwerau deddfu: Canlyniad y pôl anwyddonol iawn hwn oedd:
- Yn erbyn rhagor o bwerau deddfu - 1 person
- O blaid rhagor o bwerau deddfu - 30 o bobl
- Ddim yn siwr - 5 person
