Digwyddiad Cyhoeddus Merthyr - 13 Mai 2009
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Chanolfan Blant Integredig Cwm Golau ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, ddydd Mercher 13 Mai i gynnal digwyddiad i'r teulu.
Dyddiad y Digwyddiad: 13/05/2009
Cafodd y cyfleusterau eu troi yn 'sioe deithiol dan do' a chanolfan alw heibio i'r Confensiwn am y dydd, gyda darpariaeth maldod dewisol i ymwelwyr a meithrinfa i blant.Roedd tîm o bedwar o harddwyr dan hyfforddiant yno o Goleg Merthyr, yn cynnig triniaethau dwylo a thyliniadau i ymwelwyr a oedd wedi dod i rannu eu safbwyntiau am ddyfodol Cymru.
Cyfarfu'r tîm o fyfyrwyr therapi harddwch, ynghyd ag aelodau o staff ac aelodau o bwyllgor Confensiwn Cymru Gyfan, â thua 60 o ymwelwyr yn ystod y dydd - nifer ohonynt yn defnyddio'r ganolfan yn rheolaidd.
Hwn oedd y 17eg digwyddiad mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal ledled Cymru i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru.
