Casnewydd Digwyddiad Cyhoeddus - 18 Mehefin 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 18/06/2009
Grŵp trafod oedd y digwyddiad, yn cynnwys trafodaeth agored lle roedd aelodau yn gallu holi cwestiynau am y dewisiadau sydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer pwerau deddfu yng Nghymru, yn ogystal â lleisio eu barn eu hunain am y broses gyfredol o ddeddfu.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Mai Davies, y newyddiadurwraig a'r cyflwynydd gwleidyddol a bu 26 o bobl yn bresennol.
Croesawodd y Cynghorydd Ed Townsend, Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, pawb i'r digwyddiad.
Roedd teimlad cryf yn yr ystafell na ddylid rhoi pwerau deddfu pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fodd bynnag ni chytunodd pawb oedd yn bresennol â'r syniad hwn.
Teimlodd rhai yn gryf iawn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud gwaith gwych a dylai gael rhagor o bwerau deddfu i'w alluogi i barhau a'i waith da:
Gwelwyd rhai polisïau gwych ar gyfer Cymru wedi'u sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ein hadlewyrchu ni, ein hanghenion a'n bywydau yng Nghymru.
Anghytunodd eraill a nodwyd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn warth, gan ddweud:
Nid ydynt wedi gwneud llawer hyd yn hyn - heblaw am wneud yn dda iawn yn ariannol iddynt hwy eu hunain, wrth gwrs.
Roedd y digwyddiad hwn yn un o gyfres o 23 o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhelir ledled Cymru gan y Confensiwn, i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru.
Mae Confensiwn Cymru Gyfan bellach ar gymal olaf ei daith o amgylch Cymru a bydd yn cynnal dau ddigwyddiad olaf yr wythnos hon yng Nghaerdydd – Sioe Deithiol ar 23 Mehefin a digwyddiad Hawl i Holi ar 25 Mehefin.
