Digwyddiad Cyhoeddus Sir Benfro - 6 Mawrth 2009
Aeth Confensiwn Cymru Gyfan i ymweld â Marchnad Ffermwyr yr Hwlffordd ddydd Gwener 6 Mawrth, gan gwblhau pedwerydd cam ei sioe deithiol.
Dyddiad y Digwyddiad: 06/03/2009
Aeth trelar sioe deithiol Confensiwn Cymru Gyfan i'r farchnad, gan gyfarfod â siopwyr a deiliaid stondinau a sgwrsio am bwerau deddfu yng Nghymru. Sgwrsiodd aelodau o staff ac Aelodau Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan â siopwyr a phobl a oedd yn mynd heibio, gan ateb cwestiynau a chasglu barn am bwerau cyfredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Ymgysylltodd dros 100 o bobl â Chonfensiwn Cymru Gyfan yn Sir Benfro, a chwblhaodd pob un ohonynt holiadur byr i fynegi eu barn.
Hwn oedd y nawfed digwyddiad mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal ledled Cymru i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru.
