Sefydliad y Cyfarwyddwyr, cyfarfod cinio, 24 Hydref 2008
Dyddiad y Digwyddiad: 24/10/2008
Trafododd Syr Emyr sut y mae gwaith Confensiwn Cymru Gyfan yn berthnasol ac, yn wir, yn bwysig iawn i'r gymuned fusnes. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae gan y gymuned fusnes lawer o bryderon, a bydd y ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithio yng Nghymru, ac yn gweithio gyda'r gymuned fusnes, yn ffactor allweddol wrth bennu pa mor dda y bydd Cymru'n dod drwy'r argyfwng hwn. Yn ystod uwchgynhadledd economaidd diweddar Cymru, lle'r oedd busnesau, undebau llafur a gwleidyddion yn bresennol, cydnabuwyd yr angen i'r llywodraeth fynd ati i helpu busnesau i ddelio â'r pwysau economaidd yn ystod y misoedd i ddod.
Yn y cyd-destun hwn, mae'r ddadl sy'n sail i Gonfensiwn Cymru Gyfan - sef ystyried y setliad datganoli yng Nghymru, sut y mae'n gweithio, ac a oes angen mwy o bwerau deddfu ar y Cynulliad - yn ddadl allweddol i'r gymuned fusnes fod yn rhan ohoni.
Menter ar y cyd rhwng Sefydliad y Cyfarwyddwyr a'r Siambr Fasnach oedd y cyfarfod hwn, ac roedd tua 120 o bobl yn bresennol. Cafwyd trafodaeth fywiog ynghylch y materion sy'n effeithio ar fusnes, a sut y gallai Sefydliad y Cyfarwyddwyr chwarae rhan wrth helpu i wneud y ddadl yn berthnasol i fusnesau a chymunedau.
O dan y setliad datganoli presennol, eglurodd Emyr fod dwy ffordd y gellir ychwanegu rhagor o feysydd polisi neu faterion at bwerau deddfu'r Cynulliad. Y ffordd gyntaf o wneud hyn yw drwy'r broses gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, a'r ail ffordd yw drwy ddarpariaeth a wneir mewn Deddf yn Senedd y DU: gellir defnyddio'r naill ffordd neu'r llall ar hyn o bryd i roi mwy o bwerau i'r Cynulliad yn raddol. Yr opsiwn arall a allai fod ar gael, o gael pleidlais gadarnhaol mewn refferendwm, yw bod y pwerau hyn i gyd yn cael eu rhoi ar unwaith. Byddai hyn yn golygu bod y Cynulliad yn cael pwerau, a hynny i gyd ar yr un pryd, i ddeddfu ar draws yr ystod lawn o feysydd polisi datganoledig.
Un o negeseuon allweddol Emyr yw bod y ddadl hon yn berthnasol i bawb - mae ef a Phwyllgor Gweithredol y Confensiwn yn barod i wrando ar farn pawb ac unrhyw negeseuon a gyflwynir gan unrhyw gymunedau ledled Cymru. Mae'r gymuned fusnes yn gyfrannwr allweddol i'r ddadl, a gobeithio y bydd yn gallu cyfrannu barn sy'n adlewyrchu materion sydd nid yn unig yn berthnasol i fusnes yn gyffredinol ond sy'n berthnasol hefyd i'r cymunedau penodol lle lleolir busnesau unigol.
Nod y Confensiwn fydd cysylltu â phob cymuned ledled Cymru, ac annog pawb i ymuno yn y ddadl.
